Newyddion S4C

Galw ar drigolion i gau ffenestri wedi tân ger y Bont-faen

26/04/2024
Llun gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Mae'r Gwasanaeth Tân wedi gofyn i drigolion lleol o fewn hanner milltir i gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau oherwydd tân ger y Bont-faen ym Mro Morgannwg fore Gwener.

Mae’r tân ar safle warws yn Crossways ar ffordd y B4270. Cafodd y ffordd ei gau gan yr heddlu yn oriau mân y bore.

“Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd rhwng Tafarn y Cross Inn a chyffordd Llanilltud Fawr,” meddai’r heddlu.

“Mae disgwyl iddo aros ar gau am beth amser.

“Rydyn ni’n cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal a defnyddio llwybrau amgen lle bo modd.

“Mae disgwyl oedi yn yr ardal. Mae'r Gwasanaeth Tân yn gofyn i drigolion lleol o fewn hanner milltir i gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.