Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman: Merch yn ei harddegau wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

25/04/2024

Ysgol Dyffryn Aman: Merch yn ei harddegau wedi ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

Rhieni yn ceisio cysylltu â'u plant. Prynhawn llawn pryder wrth gatiau Ysgol Dyffryn Aman... yn dilyn adroddiadau bod 3 wedi'u hanafu mewn achos o drywanu ar dir yr ysgol a'r safle wedi'i gloi.

"Mae merch fi yn Blwyddyn 7.

"Ni 'di cael text wrtho hi i weud bod hi'n iawn."

Beth glywoch chi'n gyntaf felly? Pam dod lawr yma?

"Ga'th gwraig fi text wrth fy merch i weud am incident... "..yn yr ysgol yn neud gyda stabbing a bod yr heddlu wedi troi lan.

"Welodd y wraig helicopter yn mynd heibio 'fyd.

"Halodd hi text ati i weud bod nhw yn lockdown."

Fe dda'th cadarnhad heno bod merch yn ei harddegau wedi'i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

"Two teachers and a teenage pupil were taken to hospital... "..with stab wounds.

"The injuries are not life threatening. "A teenage girl has been arrested... "..on suspicion of attempted murder and remains in police custody. "A knife has been recovered in evidence."

Mae'n dri o'r gloch a'r teimlad dw i'n ei gael yw bod rhieni'n awyddus i weld eu plant yn cael eu rhyddhau o'r adeilad.

Un fam yn gweud ei bod hi'n awyddus iawn i roi cwtsh i'w merch.

Erbyn hyn mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhyddhau datganiad yn dweud bod aelodau teulu'r holl unigolion a gafodd eu hanafu wedi cael gwybod.

Rydym am sicrhau rhieni a'r cyhoedd bod y digwyddiad dan reolaeth.

Yn fuan wedi hynny cafodd y disgyblion eu gadael mas.

Y cwrdd â'r rhieni yn rhyddhad i bawb wedi pnawn llawn gofid.

"Ti'n poeni pan ti'n clywed bod rhywbeth yn digwydd ar y doorstep."

O'ch chi mewn cyswllt o gwbl gyda'r plant?

"Do, daeth y ffôn ysgol bore 'ma a text trwyddo yn dweud bod nhw'n OK.

"Fi'n falch bod nhw'n iawn."

Y plentyn newydd ddod mas o'r ysgol, beth yw'r teimladau?

"Confused, shocked. Mae e i gyd yn sioc.

"Ti'n poeni tipyn bach am y plant yn mynd i'r ysgol... "..ond ni 'di bod i'r ysgol yma blynydde nôl yn saff iawn.

"Nawr, so ti'n gwybod."

I rai o'r disgyblion o'dd yn dyst i'r cyfan mae'r digwyddiad wedi cael cryn effaith.

"O'dd e'n rhywbeth o'n i'n ofni.

"O'n ni'n trio aros ffwrdd gymaint ag o'n i'n gallu.

"O'dd fi a ffrindie fi jyst yn rhedeg y ffordd arall... "..a trio cadw ffwrdd."

Mae 'na gwestiynau eisoes yn cael eu codi ynglŷn â diogelwch ysgolion.

Yn ol Prif Ferch Ysgol Dyffryn Aman roedd 'na gamau priodol yn ei lle.

"Mae pawb yn gwybod beth i wneud yn sefyllfa 'na... "..ac oedd yr athrawon yn helpu'r plant i gyd."

Trwy'r prynhawn mae'r plant wedi cael eu cadw yn eu dosbarthiadau.

"Yn y dosbarthiadau ond yn mynd mas am fwyd 'da'r heddlu.

"Mae'r ysgol 'di bod yn dda yn gweud beth sy'n wir."

Ond ar ôl diwrnod sydd wedi ysgwyd yr ardal yma a thu hwnt roedd un yn poeni y bydd y digwyddiad yn cael effaith hirdymor ar fywyd ysgolion Cymru.

"'Sdim byd fel hyn wedi digwydd o'r blaen a so chi'n meddwl bod e.

"Mae lot yn mynd i newid nawr... "..yn enwedig yn yr ysgol a phob ysgol... "..i wneud yn siwr bod pawb yn gallu bod yn saff." "It's very upsetting and we're all very shocked."

Gyda gwleidyddion hefyd yn cyfrannu i'r sgwrs.

"Like you I'm really relieved that the emergency services... "..were able to respond so quickly."

"Mae ishe cyfnod nawr i'r awdurdodau allu gwneud adroddiadau.

"Os mae 'na arfau yn dechrau ymddangos yn ein hysgolion... "..mae'n llinell mawr sydd wedi'i groesi ac mae'n rhaid meddwl... "..beth ni'n gallu gwneud fel gwleidyddion a llywodraethau... "..i amddiffyn ein disgyblion ac athrawon."

Erbyn hyn ry'n ni'n gwybod nad yw'r anafiadau i'r disgybl na'r athrawon yn peryglu bywyd.

Wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau fe fydd yr ysgol ynghau i ddisgyblion fory gyda gwersi'n cael eu cynnig ar-lein.

Yn dilyn diwrnod fydd yn aros yn hir yng nghof disgyblion, athrawon a rhieni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.