Newyddion S4C

Claf trawsblaniad calon o Wynedd i gynrychioli Cymru yn Yr Eidal

27/04/2024

Claf trawsblaniad calon o Wynedd i gynrychioli Cymru yn Yr Eidal

Fe fydd claf trawsblaniad calon o Wynedd yn cael cyfle i chwarae pêl-droed dros Gymru yng Nghwpan Trawsblaniad Y Byd ym mis Medi.

Fe gafodd Gareth Jones, 42 oed, drawsblaniad calon ddwy flynedd yn ôl yn dilyn cyfnod byr o salwch.

Roedd Mr Jones yn brysur wrth ei waith ym mis Gorffennaf 2022 pan ddechreuodd deimlo'n "wan".

O fewn 24 awr, roedd yn yr ysbyty ym Manceinion lle gafodd ddiagnosis o gardiomyopathi ymledol, sef cyflwr ble mae waliau cyhyr y galon yn chwyddo a gwanhau, ac felly yn methu â phwmpio digon o waed o amgylch y corff.

Fe ddychwelodd adref i'r Felinheli bythefnos yn ddiweddarach gyda chalon newydd - profiad y mae'n ei ddisgrifio fel un "trawmatig".

"Do'n i ddim yn disgwyl cael calon newydd mewn mater o bythefnos rili," meddai. 

'Teimlad rhyfedd'

Er ei fod yn falch o gael trawsblaniad achub bywyd, nid oedd Mr Jones yn teimlo fel ei hun bellach.

“Ar ôl cael y driniaeth o’n i’n teimlo… wel, mae ‘na deimlad rhyfadd amdano fo. Ti’n teimlo’n reit unig, do’n i ddim yn teimlo ru'n peth ag o’n i’n teimlo cynt," meddai.

Mewn ymgais i gysylltu â phobl oedd wedi "bod trwy'r un peth", fe ymunodd Mr Jones â Chlwb Pêl-droed Trawsblaniad Cymru.

Nod y clwb yw hybu iechyd a lles cleifion cyn ac ar ôl trawsblaniadau.

Erbyn hyn mae 20 o aelodau ar draws Cymru yn hyfforddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr bob pythefnos.

“Mae’n briliant bod efo’r tîm, achos mae’n neis cal siarad efo pobl sy' 'di bod trwy’r un peth," meddai.

“Mae’r hogia', maen nhw ‘di cal kidneys, livers, pancreas - lot o straeon gwahanol."

Ychwanegodd: “Dw i’n teimlo lot gwell wrth fod yn y tîm.”

Image
Clwb Trawsblaniad Cymru
Clwb Pêl-droed Trawsblaniad Cymru 

Bryd ar Gwpan y Byd

Yn ymuno â Mr Jones yn yr Eidal fydd 15 o aelodau eraill o Glwb Pêl-droed Trawsblaniad Cymru.

Dyma'r tro cyntaf i Ffederasiwn Gemau Trawsblaniad Y Byd gynnal cystadleuaeth o'r fath i bêl-droedwyr.

Ond er mwyn sicrhau bod 16 o aelodau'r tîm yn cael teithio i Gwpan Trawsblaniad Y Byd ym mis Medi, bydd angen codi hyd at £20,000. 

“‘Da ni’n gorfod trio ffeindio ffordd o gael flights, lle i aros, bwyd,” meddai.

 Ac yn ôl Mr Jones, mae'r chwaraewyr yn "trio bob dim" i godi arian.

“Be ‘da ni ‘di bod yn neud ydi fundraisers, mae ‘na crowdfunder ar Facebook, mae’r hogia' yn gwerthu raffls - bob matha' o bethe. 

“‘Da ni just yn gofyn i bawb os oes ‘na fusnes yn gallu sponsro ni, ‘da ni’n trio mynd drw' bob dim i godi arian o rwla.”

Yn eu hymgais ddiweddaraf i godi arian, fe lwyddodd y tîm i godi £3,500 wrth gynnal diwrnod o hwyl i'r teulu yn Abertawe.

Bydd y tîm yn parhau i godi arian dros y misoedd nesaf er mwyn cael gwireddu breuddwyd o chwarae dros Gymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.