Newyddion S4C

Rhyddhau plant o ysgol ar ôl i dri gael eu hanafu wedi 'trywanu' yn Rhydaman

24/04/2024

Rhyddhau plant o ysgol ar ôl i dri gael eu hanafu wedi 'trywanu' yn Rhydaman

Mae plant wedi dechrau cael eu rhyddhau o ysgol yn Rhydaman ar ôl adroddiadau am drywanu yno.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod tri o bobol wedi’u hanafu ac yn cael triniaeth ar ôl y digwyddiad ar dir Ysgol Dyffryn Aman.

Mae un person wedi’i arestio ac nid yw swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Yn gynharach roedd nifer fawr o gerbydau'r gwasanaethau brys ar dir Ysgol Dyffryn Aman, gan gynnwys dau hofrennydd ambiwlans awyr.

Mae’r gwasanaethau brys yn parhau yn y fan a’r lle ac mae’r ysgol wedi’i chau tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Dywed yr heddlu eu bod yn gweithio’n agos gyda’r ysgol a Chyngor Sir Caerfyrddin.

"Rydym yn ymwybodol bod lluniau o'r digwyddiad yn cylchredeg ar gyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd," medden nhw.

"Byddem yn gofyn i hwn gael ei ddileu er mwyn osgoi dirmyg llys a thrallod i'r rhai yr effeithir arnynt. Byddem yn gofyn i bobl beidio â dyfalu tra bod ymchwiliad gan yr heddlu ar y gweill."

Image
Ysgol Dyffryn Aman
Rhieni yn disgwyl y tu allan i'r ysgol

Dywedodd datganiad ar wefan Ysgol Dyffryn Aman: “Rydych chi eisoes yn ymwybodol o’r digwyddiad sydd wedi digwydd yn Ysgol Dyffryn Aman heddiw.

“Mae aelodau teulu’r holl bobl sydd wedi’u hanafu wedi cael gwybod.

“Hoffem dawelu meddwl rhieni a’r cyhoedd drwy ddweud bod y digwyddiad bellach wedi’i atal."

Dywedodd Cynghorydd ward Saron y sir, Karen Davies – sy’n llywodraethwr yn yr ysgol – iddi gael gwybod bod y digwyddiad yn ymwneud â thrywanu.

Fe ychwanegodd nad oedd hi'n gwybod a oedd unrhyw blant wedi cael eu hanafu.

“Rwyf wedi cael gwybod bod rhywun wedi’i arestio a bod dau aelod o staff wedi cael eu trywanu, ond heb unrhyw gadarnhad ynglŷn â pha mor ddifrifol yw’r anafiadau,” meddai wrth WalesOnline.

“Mae fy meddyliau gyda’i rhai sydd wedi’u hanafu a’r holl bobl yno. Rwy’n gwybod pa mor dda y gwnaeth yr ysgol ymarfer ar gyfer cloi i lawr ac rwy’n siŵr bod popeth dan reolaeth.

“Mae’n ysgytwol. Rydych chi'n clywed am y pethau hyn sy'n digwydd ym Manceinion a Llundain ond yna mae’n ein hysgol ni yma.”

Image
Ysgol Dyffryn Aman
Ysgol Dyffryn Aman. Llun Wales News Service

'Cymorth'

Dywedodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod cymorth gofal critigol uwch wedi ei ddarparu yn dilyn digwyddiad mewn ysgol yn Rhydaman lle cafodd tri o bobl eu hanafu.

Dywedodd llefarydd: “Cawsom ein galw toc wedi 11.15yb i ddigwyddiad ar Stryd Margaret yn Rhydaman.

“Fe wnaethon ni anfon pedwar ambiwlans brys a’r tîm ymateb i ardal peryglus i’r lleoliad, lle cafodd y criwiau eu cefnogi gan ddau barafeddyg o uned ymateb aciwtedd uchel Cymru a rheolwr gweithredol.

“Cafodd cymorth gofal critigol uwch ei ddarparu gan y gwasanaeth adfer, ac fe gafodd cleifion eu trosglwyddo mewn dau hofrennydd gan elusen Ambiwlans Awyr Cymru.”

Cadarnhaodd Ambiwlans Awyr Cymru fod tri thîm gofal critigol wedi eu hanfon i'r ddigwyddiad yn Rhydaman am 11.30am ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd: “Teithiodd ein criw o Dafen a’r Trallwng drwy'r awyr ac fe deithiodd ein criw o Gaerdydd ar y ffordd. 

"Yn anffodus, ni allwn wneud sylw pellach.”

'Terrified'

Mae Chris Rees yn ddyn camera gyda chwmni Tinopolis, ac mae ei ferch yn ddisgybl yn yr ysgol.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Heno, dywedodd: "Mae hi’n blwyddyn 7 yn yr ysgol a digwydd bod nesi hala neges iddi am rywbeth arall a wedodd hi bod yr ysgol mewn lockdown code red.

"So ar ôl cwpwl o negeseuon ar y ffôn gofynnais iddi beth oedd yn digwydd ar y pryd a nag oedd hi'n siwr a wedyn bues i ar group chat ei thîm pêl-droed a rhieni fanna wedi clywed bod rhywun wedi cael ei stabbo yn yr ysgol a’r heddlu ‘na, bod air ambulance na bod sawl  ambiwlans ‘na.

"Ges i neges gan hi yn dweud bod hi’n absolutely terrified a bod hin rili becso a fi di trial gweutho hi bod hi’n saff yn y dosbarth a maen nhw di cloi y drwsau dosbarth i gyd."

Ychwanegodd Chris: "So jyst sefyll nawr i glywed ond gallai ddychmygu bod hi a gweddill y plant yn yr ysgol yn yr un sefyllfa lle ma’ nhw i gyd yn terrified a fi jyst yn twmlo droston nhw a’r athrawon i gyd yn yr ysgol.

"Mor belled â fi’n gwbod, nag yw’r wraig wedi clywed dim byd swyddogol wrth yr ysgol na neb rili, fi wedi clywed bod ni ffaelu mynd i’r ysgol i ôl y plant so mwy na ‘na, nag yw i’n gwybod.

"Mae’n galed i gredu bod rywbeth fel hyn wedi digwydd mewn ysgol yn Sir Gâr le fel arfer chi jyst yn clywed am pethe fel hyn ar y newyddion mas yn America, rili drist i meddwl bod rywbeth fel hyn wedi digwydd yn ardal ni a Cymru."

Image
Mae merch Chris yn ddisgybl yn yr ysgol.
Mae merch Chris Rees yn ddisgybl yn yr ysgol. 

'Difrifol'

Mae Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol uwchradd ddwyieithog yn Sir Gaerfyrddin. Mae tua 2,000 o ddisgyblion rhwng 11 ac 18 oed yn mynychu’r ysgol.

Mae David Llywelyn yn byw gyferbyn â'r ysgol.

Yn ystod y digwyddiad, dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae rhywbeth difrifol wedi digwydd. 

"Beth rwyf yn ei weld yw dau air ambulance ar gae yr ysgol a dau incident support unit yr ambiwlans - mae hyd at 10 car heddlu yma. 

"Mae hyd at bump neu chwech ambiwlans wedi cyrraedd. 

"Fe ddaeth yr heddlu tua tri chwarter awr yn ôl. Mae llawer o geir wedi cyrraedd y safle erbyn hyn - mae rhywbeth difrifol yn mynd ymlaen."

'Arswydus'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething: "Newyddion ofnadwy am ddigwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Aman.

"Cyfnod pryderus iawn i’r ysgol, teuluoedd a’r gymuned. Diolch i'r ymatebwyr cyntaf.

"Dw i'n meddwl am y gymuned wrth i ni geisio canfod mwy o wybodaeth."

Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru: “Er nad ydym yn gwybod y manylion llawn am yr hyn sydd wedi digwydd, mae hwn yn amlwg yn ddigwyddiad arswydus ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda phawb yr effeithir arnynt yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.”

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Jonathan Edwards fod ei "feddyliau gyda phawb yn ôl adref ac yr awdurdodau lleol sy'n ymateb."

Dywedodd Adam Price, aelod y Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a chyn-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, fod ei feddyliau ef gyda'r ysgol.

Postiodd Mr Price ar lwyfan cyfryngau cymdeithasol X: “Wrth i ni aros i ragor o wybodaeth gael ei gyhoeddi, mae fy meddyliau, fel y gweddill ohonom, gyda chymuned yr ysgol.”

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, fod y digwyddiad yn “peri pryder mawr”.

“Mae’r newyddion sy’n dod i’r amlwg o Rydaman y prynhawn yma yn peri pryder mawr," meddai.

“Mae fy meddyliau gyda phobl, rhieni ac athrawon Ysgol Dyffryn Aman, y gwasanaethau brys a’r gymuned ehangach yn ystod y cyfnod hynod bryderus hwn.”

Disgrifiodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y digwyddiad fel un “hynod bryderus”.

“Mae’r adroddiadau o Ysgol Dyffryn Aman yn peri pryder mawr,” meddai Mr Davies.

“Dylai ysgolion fod yn fan diogel er mwyn dysgu a darganfod. Mae’n hynod drist a thrallodus fod y diogelwch hwnnw wedi’i chwalu ar gyfer disgyblion ac athrawon gan ddigwyddiad treisgar.

“Mae fy meddyliau gyda holl staff a disgyblion yr ysgol, a diolchwn i’r gwasanaethau brys am eu gwaith.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae’r adroddiadau am y digwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Amman yn newyddion difrifol a phryderus iawn. 

"Yn meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio, ac yn diolch i’r gwasnaethau brys sy’n ymateb i’r digwyddiad. 

"Mae’n meddyliau ni oll gyda chymuned glos Rhydaman."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.