Newyddion S4C

Y prifathro Neil Foden yn y llys ar gyfer ei achos camdriniaeth rywiol o blant

23/04/2024

Y prifathro Neil Foden yn y llys ar gyfer ei achos camdriniaeth rywiol o blant

Neil Foden yn cyrraedd y llys.

Mae o'n wynebu 20 o gyhuddiadau o fewn cyfnod o bedair blynedd.

Wrth agor yr achos, mi roedd yr erlyniad yn honni bod Neil Foden wedi camddefnyddio'r cyfrifoldeb a'r ymddiriedaeth oedd ganddo fo drwy ymosod yn rhywiol ar bum merch.

Ar ôl i Neil Foden gael ei arestio y llynedd clywodd y llys fod ymchwiliad wedi dod o hyd i luniau ar ffôn un ferch.

Lluniau o natur rhywiol.

Mi gafwyd hefyd hyd i gyfrifiadur gyda hanes o chwilio am wybodaeth yn ymwneud â merched a fetish o fath.

Yn ôl yr erlyniad, mi roedd un dioddefwr wedi deud fod Neil Foden wedi cyffwrdd ei chlun a'i chofleidio gryn dipyn.

Byddai hefyd yn rhoi ei law tu mewn i'w dillad.

Mae un arall wedi honni ei bod hi, ar y dechrau, yn teimlo'n saff ond mi ddechreuodd deimlo fod rhywbeth o'i le wrth i Neil Foden gyffwrdd ei gwallt, coes a'i gwddf a thrafod gweithredodd rhywiol efo hi.

Clywodd y llys fod un plentyn wedi cael ei cham-drin yn rhywiol yng nghar Mr Foden ac weithiau mewn gwestai.

Deudodd bargyfreithiwr yr erlyniad, John Philpotts wrth y llys y byddai'r ddau'n cysylltu efo'i gilydd ar y ffon drwy WhatsApp a bod y ferch yn cael gwared o'r negeseuon yn ddyddiol ar ôl i Neil Foden ddeud wrthi hi am wneud.

Ar un achlysur, deudodd yr erlyniad fod y ferch wedi ceisio atal Mr Foden rhag rhoi ei law o dan ei dillad isaf ond fe ddaliodd ati a gwrthod stopio.

Mae Neil Foden wedi pledio yn ddieuog i'r 20 cyhuddiad ac mi fydd yr erlyniad yn parhau a'u hachos fory.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.