Newyddion S4C

Tad yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn BP yn dilyn marwolaeth mab

23/04/2024
Ali Julood.png

Mae tad wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni olew BP yn sgil marwolaeth ei fab 21 oed. 

Mae Hussein Julood yn honni fod llosgi nwyon mewn maes olew sy'n cael ei redeg gan BP yn Iraq wedi achosi lewcemia ei fab, Ali. 

Y gred yw mai dyma'r achos cyntaf lle mae unigolyn wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn cwmni olew mawr yn ymwneud â'u harferion o losgi nwyon.

Mae'r llythyr yn honni fod lewcemia Ali a'i farwolaeth yn ddiweddarach wedi cael eu hachosi gan "allyriadau gwenwynig o faes olew Rumaila" a bod BP yn rhannol gyfrifol. 

Mae Mr Julood yn ceisio iawndal am gost triniaeth feddygol ei fab, gan gynnwys cemotherapi tramor a thrawsblaniadau mêr esgyrn, yn ogystal â chostau angladd a "cholled foesol" ei fab.

Er bod y weithgaredd wedi digwydd yn Iraq, mae Mr Julood yn gallu cymryd camau cyfreithiol mewn llysoedd yn y DU gan bod pencadlys BP yn y wlad. 

Mewn datganiad, dywedodd BP: "Fel yr ydym ni eisoes wedi datgan, nid BP ydi gweithredwr maes olew Rumaila. Er hyn, rydym yn parhau i gefnogi'r prif gontractwr - Basra Energy Company Limited (BECL), yn eu gwaith i roi cymorth i weithredwr y maes, Rumaila Operating Organisation (ROO), er mwyn lleihau allyriadau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.