
Euro 2020 Cymru v Denmarc: 'Teimlo fel gêm oddi cartref'
Euro 2020 Cymru v Denmarc: 'Teimlo fel gêm oddi cartref'
Mae Cymru’n paratoi i wynebu Denmarc wrth i’r wlad anelu am le yn rowndiau'r chwarteri.
Fe lwyddodd Cymru i orffen yn ail yn eu grŵp, a hynny er gwaethaf colli yn erbyn yr Eidal ddydd Sul.
Gyda'r garfan yn teithio i Amsterdam ar gyfer y gêm dyngedfennol, prin yw'r dorf fydd yn eu cefnogi yn y stadiwm.
Roedd Llywodraeth yr Iseldiroedd wedi cadarnhau na fyddai cefnogwyr o Gymru yn cael teithio i wylio’r gêm oherwydd cyfyngiadau teithio sy’n effeithio ar ddinasyddion o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd un cefnogwr Cymru fod hi'n "teimlo fel gêm oddi cartref", wrth i dorfeydd o gefnogwyr Denmarc lenwi strydoedd Amsterdam.

Y tîm ddydd Sadwrn
D Ward, C Roberts, C Mepham, J Rodon, B Davies, J Allen, J Morrell, A Ramsay, D James, G Bale (Capten), K Moore.
Eilyddion: W Hennessey, A Davies, C Gunter, B Cabango, T Lockyer, N Williams, J Williams, D Levitt, M Smith, D Brooks, H Wilson, T Roberts.

Hyd yma, mae Cymru wedi sgorio tair gôl yn y bencampwriaeth, gyda Kieffer Moore yn sicrhau gêm gyfartal yn erbyn y Swistir ac Aaron Ramsey a Connor Roberts yn cyflawni buddugoliaeth gyfforddus dros Dwrci.
Dywedodd Connor Roberts ddydd Gwener y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cefnogi Denmarc ddydd Sadwrn wedi i Christian Eriksen ddioddef ataliad ar y galon yn ystod gêm yn erbyn y Ffindir.
Ond, roedd yr amddiffynnwr yn obeithiol y byddai modd i Gymru ennill y gêm.
Ergyd arall i Gymru hefyd yw na fydd Ethan Ampadu yn cael chwarae dros Gymru ddydd Sadwrn yn dilyn cardyn coch dadleuon yn y gêm yn erbyn yr Eidal ddydd Sul.
‘Gêm anferth’
Yn ôl cyn-ymosodwr Cymru, mae pwysau mawr ar y tîm, ond mae’n gwbl hyderus yn eu gallu.
Dywedodd Iwan Roberts wrth raglen Newyddion S4C: “Dwi’ di gwrando ar rai o’r arbenigwyr yn deud na Denmarc ydi’r ffefrynnau, ond dio’n poeni dim arna fi deud gwir. Achos cyn i’r gystadleuaeth ddechrau, rhain odd yr un arbenigwyr oedd yn dweud na Cymru fyddai’n gorffen ar waelod y grŵp, a dyma lle yde ni, yn Amsterdam.
“Da ni’n gwybod seis y gêm yma, mae’n gêm anfarth, yr 16 ola. Mae’r wobr yn un enfawr. A fel chwaraewr pêl-droed, ma raid i chi groesawu’r pwysau mewn gêm, a llwyfan fel ‘ma ma’r chwaraewyr yn mynd i weld fory.
“Sgena ni ddim byd i ofni dwi’n meddwl.”
Fe fydd y gic gyntaf am 17:00 gyda’r holl gyffro yn fyw ar S4C o 16:30.