Newyddion S4C

Israel am wrthod sancsiynau gan yr Unol Daleithiau

22/04/2024
Byddin Israel

Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi dweud y byddai’n gwrthod unrhyw sancsiynau y mae’r Unol Daleithiau yn cyflwyno ar fyddin y wlad.

Fe ddaw yn dilyn adroddiadau bod yr Unol Daleithiau yn bwriadu dod a’i chymorth milwrol i ben ar gyfer un uned filwrol yno, wedi honiadau o droseddau hawliau dynol ar y Lan Orllewinol.

Ond wrth siarad ddydd Sul, dywedodd Netanyahu y byddai’n brwydro yn erbyn sancsiynau o’r fath “gyda fy holl gryfder".

Yr Unol Daleithiau yw prif gynghrair Israel ac dyw nhw erioed wedi atal cymorth i uned filwrol Israel o'r blaen.

Ond fe allai’r wlad gyflwyno’r sancsiynau ar uned Netzah Yehuda, gan wrthod rhoi cymorth i unedau tramor sydd ynghlwm a throseddau.

Mae’r fyddin yn Israel wedi dweud ei fod yn gweithredu yn unol â chyfraith ryngwladol.

Mae Gweinidog Amddiffyn Israel, Yoav Gallant, wedi galw ar yr Unol Daleithiau i beidio â bygwth sancsiynau o’r fath, gan ddweud bod y byd yn edrych i weld beth yw'r berthynas rhwng yr Unol Daleithiau ac Israel yn fwy nag erioed o'r blaen.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken yr wythnos diwethaf ei fod yn disgwyl gweithredu ar gyflwyno sancsiynau “yn y dyddiau nesaf".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.