Covid-19: Achosion mewn ysgolion ar eu huchaf ers Nadolig 2020
Mae nifer yr achosion o Covid-19 mewn ysgolion ar eu huchaf ers Nadolig 2020.
Dywed Wales Online fod y mwyafrif o’r achosion mewn ysgolion cynradd.
Cafodd y nifer uchaf o achosion eu cofnodi mewn ysgolion yn sir Conwy, ac yna sir Ddinbych ac Abertawe.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd 238 o achosion eu cofnodi yn ystod y chwe niwrnod oedd yn arwain at 23 Mehefin.
O’r 238 o achosion, roedd 131 mewn ysgolion cynradd, 81 mewn rhai uwchradd, a 23 mewn lleoliadau “eraill”, sy’n cynnwys ysgolion preifat.
Nid yw’r data yn gwahaniaethu rhwng disgyblion a gweithwyr addysg.
Darllenwch y stori’n llawn yma.