20mya: Fe allai 'hanner dwsin' o ffyrdd Caerdydd cael eu hadolygu

20mya: Fe allai 'hanner dwsin' o ffyrdd Caerdydd cael eu hadolygu
Fe allai ‘hanner dwsin’ o ffyrdd 20mya yng Nghaerdydd cael eu hadolygu, yn ôl arweinydd Cyngor y ddinas.
Wrth siarad ar Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd Huw Thomas y bydd adolygiad yn sicr yn digwydd yn y brifddinas
“Gallaf ddweud yn sicr yn achos Caerdydd, y bydd adolygiad," meddai'r cynghorydd Llafur.
"Mae hwn yn bolisi rydyn ni wedi bod yn ei gyflwyno yng Nghaerdydd dros nifer o flynyddoedd.
"Pan ddaeth y gyfraith i rym ym mis Medi, dim ond 24 o strydoedd yn y ddinas newidiodd eu terfynau cyflymder.”
Pan ofynnwyd iddo a fydd unrhyw rai o’r strydoedd hyn yn newid o derfyn 20mya, ymatebodd Huw Thomas "hanner dwsin, o bosib.”
“Rwy’n meddwl ei fod yn iawn ein bod yn edrych ac yn gwrando. Ond yn gyffredinol, bydd y terfynau cyflymder yn aros fel ag y maen nhw.”
Gwrthwynebiad
Daeth y cyfyngiad 20mya mewn ardaloedd trefol a phreswyl i rym ledled Cymru ym mis Medi 2023, ac mae wedi derbyn gwrthwynebiad yn y Senedd gan y Ceidwadwyr Cymreig, tra bod deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r gyfraith wedi derbyn bron i 500,000 o lofnodion.
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, mewn ymateb i ddadl a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr yn y Senedd ddydd Mercher y bydd adolygiad i ffyrdd 20mya, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu “targedu” mewn ardaloedd “lle mae plant a’r henoed mewn perygl. ”
“Dw i’n meddwl bod y newid pwyslais yn dangos sut mae Vaughan Gething a Ken Skates eisiau bod yn llywodraeth sy’n gwrando, ac mae hynny i’w groesawu,” meddai Mr Thomas.
“Rwy’n meddwl bod yr wrthblaid wedi gwneud llawer o ffwdan dros y polisi hwn. Ond yn syml iawn, yr hyn y mae’r gyfraith yn ei wneud yw galluogi cynghorau lleol i osod terfyn 20mya fel y lleiafswm.
“Yma yng Nghaerdydd, dros yr wyth mlynedd diwethaf o gyflwyno 20mya mewn ward ar ôl ward ar ôl ward, roedd yn broses hir iawn i gyflawni hynny – ac mae’r gyfraith newydd yn dweud ‘dyna’r lleiafswm, os ydych chi eisiau cynyddu’r cyflymder, gallwch chi wneud hynny', ac mae'n rhaid ichi fynd trwy broses hir i gynyddu'r cyflymder.
“Dyna beth sydd i’w groesawu yn yr hyn y mae Ken Skates yn ei awgrymu nawr yw y bydd gan gynghorau’r pŵer hwnnw."
Bydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates yn gwneud ei ymddangosiad gweinidogol cyntaf ar bolisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn y Senedd ddydd Mawrth.