Newyddion S4C

Busnesau a chwsmeriaid yn profi effaith chwyddiant

18/04/2024

Busnesau a chwsmeriaid yn profi effaith chwyddiant

Caffi newydd sy'n cael ei adeiladu gan Gwion Evans yng ngwersyll carafanau'r teulu yn Llanbenwch ger Rhuthun.

Wedi agor bum mlynedd yn ôl, mae'r busnes wedi tyfu'n raddol.

Mi gawson nhw grant ar gyfer y datblygiad yma o gronfa sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Prydain.

Er hynny, mae'r cynnydd mewn prisiau ers dechrau'r prosiect diweddaraf wedi bod yn sioc.

"O ran y gwydr, 'swn i'n deud bod o 'di mynd i fyny 40%.

"I fod yn hollol onest gathon ni fraw pan naethon ni ddechrau'r prosiect.

"Mae'r misoedd yn mynd yn eu blaenau wedyn dach chi'n gorfod ail roi'r prisiau mewn a rheiny'n codi cryn dipyn mewn chwe mis.

"O'dd o'n sioc i'r system ond oedd rhaid dal arni.

"Roedd rhaid gwneud rhywbeth er mwyn gallu symud ymlaen efo'r busnes."

Nid dim ond ar fusnes a chostau adeiladu mae chwyddiant yn effeithio.

Mae'r nwyddau yn ein basged siopa, y tanwydd mewn cerbydau a'r trydan a'r gwres i gartrefi i gyd wedi bod yn gynyddol ar i fyny.

Heddiw cadarnhad nad ydy prisiau'n cynyddu mor gyflym ag o'n nhw.

3.2% - Llafur yn pwysleisio bod hynny'n dal yn uwch na tharged Banc Lloegr o 2%.

Dyma'r isaf mewn dwy flynedd a hanner ac mae'r Llywodraeth yn falch.

"Inflation is expected to continue falling over the coming months.

"It's because we have a plan and that plan is working.

"When I became Prime Minister I set out five priorities.

"The first one was to halve inflation.

"We've more than delivered on that."

Y penawdau'n fel ar fysedd y llywodraeth felly.

A'r busnes yma yn cael blas ar y ffigyrau.

Cynnydd mewn costau bwyd arafodd fwyaf.

Mi daniodd perchnogion y becws yma'r poptai am y tro cyntaf naw mis nôl.

Yn barod, maen nhw am agor safle newydd eto gyda chymorth grant trwy asiantaeth leol, Cadwyn Clwyd.

"O'dd o'n amser pryderus i ni wneud o.

"Roedd gwenith ar ei uchaf ers cyn cof a trydan 'run fath.

"Erioed costau'r un fath a fo."

Y rheswm 'dan ni'n siarad efo chi heddiw ydy chwyddiant.

Mae o 'di dod lawr yn y mis dwetha a phetha'n arafu.

Faint o arwyddion o hynny dach chi'n gweld?

"'Swn i'm yn deud bod pobl efo gormodedd o bres.

"Falle bod nhw'n mynd am bryd o fwyd ella neu am beint a gwin.

"Ella bod nhw'n cael cacen ar nos Wener."

"Mae'n anodd i ni ddeud.

"Am bod ni heb neud blwyddyn gyfan 'dan ni'm yn nabod y patrwm.

"'Dan ni wedi gweld cynnydd ers mis Ionawr.

"Pobl yn dod mewn.

"Dw i'm yn gwybod os ydy hynny i wneud efo chwyddiant a bod gan bobl fwy o arian, ynta amser y flwyddyn.

"Yn sicr, mae pobl yn dod yn ôl.

"Dw i'n teimlo os fydd 'na fwy o arian ar gael gobeithio ddown nhw yma i wario fo ar felysion ac ati."

Ie - melys, moes mwy.

Y cwmni'n gobeithio y bydd cynnydd costau'n parhau i arafu ac mai rhywbeth i'r toes a'r bara yn unig fydd chwyddiant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.