Newyddion S4C

JESS yn dychwelyd i berfformio ar lwyfan lleol

18/04/2024
JESS

Mae band pop-roc adnabyddus o Aberteifi wedi cyhoeddi eu bod am ddychwelyd i’r llwyfan gan “ddathlu iechyd” un o’u haelodau. 

Bydd JESS, oedd yn boblogaidd yn ystod yr 1990au, yn dychwelyd i’r llwyfan ar gyfer Gŵyl Fel ‘Na Mai ym Mharc Gwynfryn yng Nghrymych ar 4 Mai eleni. 

Bellach yn wyneb adnabyddus i wylwyr S4C, fe ymddangosodd Emyr Penlan ar raglen Prynhawn Da ddydd Iau er mwyn trafod cyhoeddiad ei fand. 

Ac wrth iddyn nhw gamu i’r llwyfan ar drothwy’r haf, mi fydd JESS yn dathlu iechyd Brychan Llŷr, sydd hefyd yn aelod o'r band, wedi iddo frwydro yn erbyn alcoholiaeth. 

Dywedodd Emyr Penlan: “Mae Brychan wedi bod yn diodde’ gydag alcoholiaeth ers blynydde maith erbyn hyn. 

“Ond mae ‘di bod yn sych nawr ers 18 mis o leiaf, blwyddyn a hanner. Felly mae’n ddathliad o iechyd Brychan.” 

Bydd perfformio yn yr ŵyl leol yn “wych” meddai’r cyflwynydd a’r cerddor, gan ddisgrifio’r profiad fel “dychwelyd i’r ddechrau.” 

“Mae’r cylch yn gyflawn,” meddai. 

Ymhlith aelodau eraill y grŵp mai’r cerddorion Owen Thomas a Chris Lewis. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.