Newyddion S4C

Heddlu'n chwilio am ddau ddyn o Gaerdydd wedi llofruddiaeth

17/04/2024
Llofruddiaeth Caerdydd

Mae Heddlu’r De'n chwilio am ddau ddyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth yng Nghaerdydd. 

Bu farw Colin Richards o Drelluest (Grangetown) yn Nhrelái yn gynharach yn y  mis. 

Mae’r llu yn chwilio am Corey Gauci, 18 oed o Gaerdydd, a James O’Driscoll, 26 oed o Gaerdydd, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Jimmy’, ar amheuaeth o lofruddio’r tad i saith o blant. 

Mae’r elusen Crimestoppers wedi cynnig gwobr o £10,000 am unrhyw wybodaeth allai arwain at arestio’r dynion. 

Mae Heddlu De Cymru wedi rhybuddio pobl i beidio siarad â Mr Gauci neu Mr O’Driscoll, gan annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r llu ar unwaith.

Fe gafodd Colin Richards ei ganfod yn anymwybodol ar Ffordd Eryri yn Nhrelái wedi i’r gwasanaethau brys ymateb i alwad yn ardal Heol-Y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau cyn 23.30 ddydd Sul, 7 Ebrill. 

Bu farw Mr Richards o ganlyniad i glwyf angheuol wedi iddo gael ei drywanu, meddai Heddlu De Cymru. Mae archwiliad yn parhau. 

Cafodd dwy ddynes 43 oed ac un dynes 28 oed, eu harestio ar amheuaeth o lofruddio a’u rhyddhau dan ymchwiliad wedi’r digwyddiad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.