Cyn-gapten Cymru Ken Owens am ymddeol o chwarae rygbi
Cyn-gapten Cymru Ken Owens am ymddeol o chwarae rygbi
Mae bachwr Cymru a'r Scarlets, Ken Owens wedi cyhoeddi ei fod am ymddeol o chwarae rygbi.
Mae Owens wedi ennill 91 o gapiau dros Gymru, yn ogystal â gwneud 270 ymddangosiad i'r Scarlets.
Fe gollodd Owens, 37, gystadleuaeth Cwpan y Byd yn Ffrainc y llynedd oherwydd anaf i’w gefn, ac ni chwaraeodd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni chwaith.
Fe gafodd ei enwi yn gapten ar Gymru ar gyfer y Chwe Gwlad y llynedd.
Mae hefyd wedi cynrychioli'r Llewod.
Yn adnabyddus fel y 'Sheriff', Owens ydi'r bachwr sydd wedi gwneud y mwyaf o ymddangosiadau i Gymru.
Fe gafodd ei addysgu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yng Nghwpan y Byd 2011 oddi ar y fainc yn erbyn Namibia.
Wrth siarad am ei benderfyniad, dywedodd: "Yn anffodus, dwi’n cyhoeddi fy ymddeoliad o chwarae rygbi. Mae peidio chwarae wedi bod yn heriol, ond mae’r amser yn iawn i ddilyn y cyngor meddygol a rhoi’r gorau i chwarae.
"Pe bawn i wedi ysgrifennu’r sgript, byddwn i wedi chwarae un gêm yn fwy i Gymru, i’r Scarlets, a Carmarthen Athletic. Cyfle i ddweud diolch i bawb oedd yn rhan o’r daith.
"Doedd hi ddim i fod. Efallai mai nid dyma oedd y diwedd perffaith ond mae fy nghyrfa wedi bod yn fwy na beth fyddwn i fyth wedi ei ddychmygu.
"Er bod rhan ohonof yn dymuno y gallwn i fod wedi gallu gwneud mwy, dwi’n llwyr ymwybodol pe baech wedi dweud wrthyf fel plentyn y byddwn i'n ddigon ffodus i brofi’r hyn dwi wedi, i fod wedi gweithio gyda’r bobl a chwarae gyda nhw ac wedi cymryd y pleser dwi'n ei gael o'r gêm anhygoel yma, fyddwn i ddim wedi eich credu chi."
Diolchiadau
Dywedodd Ken Owens ei fod yn ddiolchgar i glybiau Caerfyrddin Athletic ac y Scarlets, ac i Gymru.
“Fe roddodd fy nghlwb, Caerfyrddin Athletic, gymaint i mi," meddai.
"Cyflwyniad gwych i rygbi a ffrindiau am oes. Ni allaf byth ddiolch yn ddigonol i'r bobl yno.
“Roedd fy unig glwb proffesiynol, y Scarlets, yn credu ynof, a gobeithiaf fod fy nheyrngarwch dros 19 mlynedd wedi ad-dalu’r ffydd a ddangoswyd gennych chi.
“Mae wedi gallu chwarae 91 o weithiau dros Gymru yn anrhydedd na allaf byth ei disgrifio’n llawn. I chwarae dros y Llewid … dwi methu ei ddisgrifio mewn geiriau.
“Mae fy ngwraig wedi bod yn anghredadwy, diolch Carys, yn cadw fy nhraed ar y ddaear yn barhaol! I fy feibion, Efan a Talfan, diolch am gwblhau fy nheulu.
“I fy hyfforddwyr, y staff cymorth. Diolch yn fawr iawn.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething: "Diolch am bopeth Ken y Sheriff - rwyt ti wedi bod yn un o gewri'r gêm. Pob lwc am y dyfodol."
Llun: Asiantaeth Huw Evans