Newyddion S4C

Marathon newydd i fenywod yn unig ym Mhen Llŷn

16/04/2024

Marathon newydd i fenywod yn unig ym Mhen Llŷn

Gyda'r golygfeydd yn siŵr o helpu nod y SheUltra cyntaf erioed ydy annog merched o bob gallu i herio eu hunain ar gwrs 50km ym Mhen Llŷn.

Yma ar y maes ym Mhwllheli fydd y 560 a mwy o ferched yn cychwyn ddydd Sadwrn.

Rhai erioed wedi bod yn rhan o ddigwyddiad fel hyn.

Yn eu plith, ffrindiau lleol.

Amelia Shaw a Jennie Roberts a'r syniad o wneud digwyddiad merched yn unig yn apelio.

"Neud o efo dynion mae'n fwy o competition.

"Ti'n teimlo fatha, 'dw i'm yn dda am wneud hyn'.

"Mae'n fwy cyfforddus efo grwp o genod."

"'Swn i byth yn gallu neud y training ar ben fy hun.

"'Dan ni di bod yn mynd i'r gym.

"'Dan ni 'di cychwyn nofio yn y môr i helpu mentally a physically."

"'Swn i'm yn edrych ar fy hun a deud 'sa hi'n gallu gwneud 50k'.

"Dw i yn gallu neud o.

"Mae lot o genod mor self-conscious.

"Maen nhw'n poeni be mae pobl eraill yn feddwl ond does dim rhaid."

Mi ddoth syniad y SheUltra ar ôl i'r trefnydd Huw Williams gael diagnosis canser a gweld bod angen cyfleoedd ehangach i ferched yn enwedig fod yn rhan o ddigwyddiadau mawr gan godi arian i elusennau canser yr un pryd.

"Pa ffordd orau i fynd allan am ddiwrnod efo dy ffrindiau?

"Am dro yn rhywle perffaith fel Pen Llŷn a neud rhywbeth da hefyd.

"Dw i'n gweld o'n briliant.

"Mae gynnon nhw drwy'r dydd neu ganol nos os maen nhw isio.

"Mae 'na SheUltra Ambassadors.

"Bydd 'na enethod yn cerdded efo nhw.

"Mae eight stations i gyd efo bwyd a diod a sanitary products, hygiene products yna yn barod.

"Maen nhw'n medru gadael hygiene bags yn y registration a 'dan ni'n mynd â nhw ymlaen.

"Mae 'na Wellness Leads sy'n medru neud exercises cyn yr event i bobl gael ymlacio."

Mae Mared Llewelyn yn un o'r llysgenhadon sy'n gobeithio helpu i ysbrydoli merched eraill.

"Mae wedi datblygu'n naturiol i fi o fod yn dechra rhedeg a chynyddu'r pellter.

"Dydy hynna'm yn wir i bawb.

"Dw i'n nabod dipyn o ferched sy'n neud y math yma o beth am y tro cyntaf.

"Dw i mor falch bod nhw'n mynd i gael yr un math o brofiad."

"Dw i'n edrych ymlaen at gerdded, neud o, mynd trwy'r motions i gyd.

"O deimlo'n iawn i deimlo'n ofnadwy.

"Traed fi'n brifo.

"Ond mae 'na prosecco ar y diwedd so 'dan ni'n edrych ymlaen.

"Dyna be dw i'n meddwl am - y prosecco."

Rhywbeth i anelu ato felly.

Wrth i'r digwyddiad edrych at y dyfodol mae 'na gynlluniau i gynnig gofal plant y flwyddyn nesa a hyd yn oed digwyddiad arall tebyg ym Mhortiwgal yn ogystal ag yma ym Mhen Llŷn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.