Newyddion S4C

Carchar i ddyn o Wynedd am dagu ci bach i farwolaeth

16/04/2024
Aled Roberts

Mae dyn 32 oed o Wynedd wedi cael ei garcharu am 18 mis ar ôl cael ei gyhuddo o dagu ci bach i farwolaeth.  

Cyfaddefodd Aled Roberts o Dywyn, iddo achosi dioddefaint diangen i gi o'r enw Twm ym Mhwllheli.

Plediodd hefyd yn euog i achosi creulondeb rhwng Tachwedd 2022 ac Ebril 2023. 

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon, cafodd hefyd ei wahardd gan y Barnwr Timothy Petts rhag cadw unrhyw anifail am weddill ei oes.

Dywedoddd y barnwr wrth Roberts: " Yn amlwg doedd gennych ddim syniad sut i ofalu amdano. 

“Ar ôl ei esgeuluso, fe wnaethoch ymddwyn yn greulon a threisgar tuag ato."  

Cafodd Twm ei dagu gan dennyn.    

Yn ôl y Barnwr Petts, roedd gan Roberts 'broblemau personoliaeth', ac roedd wedi cysylltu â'r heddlu i nodi fod y ci wedi marw. 

Hynny arweiniodd at yr achos yn ei erbyn. 

Wrth ei ddedfrydu, nododd bod hwn yn achos lle roedd yn "rhaid carcharu ar unwaith".

Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Thomas McLoughlin: "Mae'r achos hwn yn amlwg yn un difrifol iawn". 

Ond nodwyd fod Roberts wedi derbyn ei fod yn euog ac wedi ffonio 999 i gyfaddef hynny i'r heddlu. 

Llun: Heddlu Gogledd Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.