Newyddion S4C

Ymgyrchu yn erbyn cynyddu maint morglawdd

16/04/2024
Llanfairfechan

Mae rhai o drigolion Llanfairfechan yn ymgyrchu yn erbyn ymestyn taldra morglawdd sy’n amddiffyn y dref.

Maen nhw’n dweud y bydd y newidiadau yn eu hatal rhag gweld y môr ac yn ei gwneud yn anoddach mynd at y traeth.

Dywedodd Cyngor Sir Conwy bod tonnau yn aml yn mynd dros ben y morglawdd presennol gan achosi llifogydd a difrod i adeiladau.

Bydd hynny’n gwaethygu eto yn sgil newid hinsawdd meddai'r cyngor.

O ganlyniad, maen nhw’n cynnig cynyddu uchder darn 725 metr o hyd at forglawdd presennol Llanfairfechan.

Dywedodd Joanna Horton ar ran y grŵp trigolion eu bod nhw’n anhapus nad oedd Cyngor Conwy wedi cyflwyno opsiynau eraill.

Maen nhw wedi casglu allbwn gan 338 o drigolion lleol gyda bron bob un yn gwrthwynebu’r cynlluniau, meddai.

“Mae hyn wedi’i wneud heb ymgynghori â’r trigolion a dim cynigion amgen,” meddai.

“Dy’n ni ddim yn gweld y dystiolaeth o’r angen i gynyddu’r morglawdd. Mae wedi ei gyflwyno i'r trigolion fel fait accompli.”

Roedden nhw hefyd yn anhapus â chynlluniau’r cyngor i wneud i bobl dalu am ddefnyddio maes parcio y traeth, meddai.

Talu ac arddangos

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy eu bod nhw wedi ymgynghori gyntaf â thrigolion Llanfairfechan ynghylch gwelliannau i amddiffynfeydd yr arfordir yn 2018.

“Roedd hyn yn cynnwys sesiwn ymgynghori galw heibio yn Neuadd y Dref ar 26 Mawrth 2018, lle mynegodd trigolion gefnogaeth gref i godi’r morglawdd,” meddai’r llefarydd.

“Ers hynny, rydym wedi bwrw ymlaen â'r dewis hwn, gan gwblhau cynlluniau a sicrhau cyllid. Fe wnaethom rannu manylion am hyn gyda phreswylwyr mewn sesiwn alw heibio gyhoeddus y mis diwethaf, gyda gwybodaeth hefyd ar gael ar ein gwefan.”

Cadarnhaodd y llefarydd eu bod nhw’n disgwyl y bydd yn rhaid talu i ddefnyddio’r maes parcio er mwyn cyfrannu at dalu am “welliannau”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.