Newyddion S4C

Cwmni yn bwriadu cyhoeddi 'clasuron coll' Cymru

15/04/2024
Adam Pearce Melin Bapur

Mae cwmni cyhoeddi Melin Bapur yn bwriadu rhannu nofelau Cymraeg a fyddai'n "glasuron coll" pe na bai nhw'n cael eu cyhoeddi.

Cafodd Melin Bapur, cwmni cyhoeddi annibynnol ei sefydlu gan Adam Pearce ym mis Rhagfyr 2023.

Mae'r cwmni yn cyhoeddi "clasuron" Cymraeg, ac mae Mr Pearce yn dweud ei fod wedi darganfod llwyth o lenyddiaeth Cymraeg gan awduron adnabyddus fel T.Gwynn Jones, sydd erioed wedi eu cyhoeddi o'r blaen.

Wrth siarad ar bodlediad Sgribls, dywedodd bod cannoedd o nofelau o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif sydd heb eu cyhoeddi.

"Mi o'n i'n darllen bywgraffiad Alan Llwyd o T. Gwynn Jones, a dyma fi'n darllen yn y llyfr hwn am T. Gwynn Jones, a'r ffaith oedd o wedi sgwennu rhywbeth fel 15 o nofelau ond dim ond rhywbeth fel pedair ohonyn nhw gafodd erioed eu cyhoeddi fel llyfrau.

"Arweiniodd hynny at ryw archive panic, pan chi yn mynd bach yn wallgof gyda gormod o wybodaeth yn dod mewn i'r pen ar yr un pryd.

"O'n i'n darganfod cymaint o bethau oedd yn bodoli, oedd wedi cael eu sgwennu yn y Gymraeg, yn enwedig yn y cyfnod yma.

"Mae llwyth o bethau wedi eu sgwennu yn y cylchgronau 'ma a'r mwyafrif helaeth erioed wedi dod allan fel llyfrau."

'Penodi beth yw clasuron'

Bellach mae Adam Pearce wedi dechrau cyhoeddi rhai o'r nofelau, ac yn bwriadu datblygu arbenigedd mewn llenyddiaeth glasurol Gymraeg.

Mae tair nofel T. Gwynn Jones eisoes wedi eu cyhoeddi, sef Lona, Gorchest Gwilym Bevan ac Enaid Lewys Meredydd.

Maes o law, mae’r cyhoeddwr yn gobeithio cyhoeddi pob un o nofelau T. Gwynn Jones, ynghyd â gwaith llawer o lenorion Cymraeg eraill.

"O'n i wedi meddwl fod 'na rhyw 20 o nofelau yn bodoli yn y 19eg ganrif, ond mae'r gwir rif yn agosach i 300 dwi'n dyfalu, ond dwi ond yn dyfalu. Dwi 'di dod o hyd i gwpl o gannoedd ohonyn nhw.

"Tasai'r wasg Gymraeg draddodiadol eisiau cyhoeddi'r stwff yma, gallen nhw neud.

" 'Da ni erioed wedi cael fel Penguin classics yn y Gymraeg. 'Da ni erioed wedi cael rhywbeth fel 'na.

"Dyna beth sy'n ffurfio canon llenyddol, beth sy'n cael eu cyhoeddi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.