Newyddion S4C

Chwech o bobl wedi eu lladd mewn digwyddiad o drywanu yn Awstralia

13/04/2024

Chwech o bobl wedi eu lladd mewn digwyddiad o drywanu yn Awstralia

Mae’r heddlu yn Sydney wedi cadarnhau fod chwech o bobl wedi eu lladd mewn digwyddiad o drywanu mewn canolfan siopa yn y ddinas ddydd Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cyhoeddi digwyddiad critigol yn dilyn saethu un dyn ychydig cyn 16:00 amser lleol (tua 07:00 BST) ar ôl adroddiadau fod nifer o bobl wedi eu trywanu.

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Sadwrn dywedodd comisiynydd cynorthwyol heddlu talaith New South Wales Anthony Cooke fod pump o bobl wedi eu lladd ar ôl cael eu trywanu a bod plismones wedi saethu’n farw'r dyn oedd yn gyfrifol.

Ychwanegodd: “Fe wnaeth y dyn fynd i mewn i’r ganolfan siopa ac yna gadael a dychwelyd yn hwyrach gan ddechrau trywanu pobl. Roedd plismones sy'n arolygydd gyda'r heddlu yn agos i’r digwyddiad ac aeth i mewn i’r ganolfan gan ddod o hyd i’r ymosodwr gyda help y cyhoedd oedd yno. Fe drodd yr ymosodwr ati gan godi cyllell ac fe saethodd hi ef yn farw.

“Yn anffodus mae pump o bobl wedi marw a nifer eraill yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol a chritigol gan gynnwys plentyn bach.

"Mae’n ymddangos fod y dyn wedi gweithredu ar ei ben ei hun ac nid yw'r bygythiad yn parhau. Nid oes unrhyw wybodaeth ar hyn o bryd am bwy ydy o.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu New South Wales Karen Webb yn hwyrach fod chwech o bobl wedi eu lladd gan yr ymosodwr, sef pump o fenywod ac un dyn.

Dywedodd fod pump o bobl wedi eu lladd yn y ganolfan siopa a bod un fenyw wedi marw yn ddiweddarach yn yr ysbyty. Roedd hi'n fam i fabi naw mis oed oedd hefyd wedi cael ei drywanu.

Roedd y dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn 40 oed ac yn adnabyddus i'r heddlu.

Dywedodd Prif weinidog Awstralia Anthony Albanese fod sawl person wedi dangos dewrder yn enwedig swyddog yr heddlu wnaeth saethu’r ymosodwr.

Dywedodd Mr Albanese: “Rwy’ wedi siarad am y dewrder sydd wedi cael ei ddangos yma, dewrder yr heddwas. Fe wnaeth hi fynd i mewn wrth i’r digwyddiadau gymryd lle, yn amlwg yn beryglus ar ei phen ei hun. Mae hi bendant yn arwr. D’oes dim amheuaeth ei bod hi wedi achub bywydau trwy ei gweithrediadau.

"Mae pob person yn Awstralia yn meddwl am y dioddefwyr. I unrhyw un o Awstralia sydd wedi eu heffeithio gan y trasiedi yma, mae pob un yn Awstralia gyda chi.”

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.