Newyddion S4C

Hosbisau Cymru sy'n 'ymdrechu i ateb y galw' yn derbyn £4 miliwn

ITV Cymru 12/04/2024
Jayde a Savanah (ITV Cymru)

Mae mam i ferch sydd â chyflwr ar yr ymennydd sy'n cyfyngu ar ei bywyd wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd hosbisau yng Nghymru yn derbyn cyfran o £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi y bydd £4 miliwn yn cael ei rannu ar draws 12 hosbis i’w helpu i gynnal gwasanaethau, cyfrannu at gostau staffio, a gwella ansawdd gofal diwedd oes.

Bydd mwy na £770,000 yn cael ei rhoi i hosbisau Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan, sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sy'n byw gyda chyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd.

Mae Jayde Adams a’i merch Savanah yn dweud eu bod yn 'edrych ymlaen' at eu hymweliadau â Thŷ Hafan. 

Mae gan Savanah leukodystrophy, cyflwr ar yr ymennydd sy'n cyfyngu ar fywyd.

Dywedodd Ms Adams: "Savanah yn dod yma yw'r peth gorau - mae hi wrth ei bodd. 

"Mae'n rhoi ychydig bach o annibyniaeth iddi ac mae'n rhoi amser i mi ddal i fyny ar gwsg a phopeth sydd angen i mi ei wneud gartref.

“Mae'n rhywle i ddod ac mae pobl yn ein deall ni, maen nhw'n gwybod beth rydyn ni'n mynd drwyddo.

“Mae Tŷ Hafan yn gwneud llawer o waith codi arian i allu cefnogi teuluoedd fel un ni a dwi’n meddwl bod angen ychydig mwy o gefnogaeth arnyn nhw oherwydd maen nhw’n mynd allan o’u ffordd i helpu teuluoedd fel un ni a ble fydden ni pe na fydden nhw o gwmpas?"

'Hanfodol'

Yn draddodiadol, mae hosbisau’n dibynnu ar godi arian a rhoddion elusennol, ond mae’r argyfwng costau byw wedi gwneud hyn yn anoddach.

Wrth drafod y cyllid, dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn caniatáu iddyn nhw dalu’r math o gyflogau sy’n cael eu talu yn y GIG i’w staff.

“Mae hynny’n hanfodol iddyn nhw gadw staff sydd â’r arbenigedd go iawn ac sy’n gwbl dosturiol yn y ffordd maen nhw’n gweithio.

"Rwy'n siŵr y bydden nhw eisiau mwy o arian yn dod i'w hosbisau ac rwy'n deall hynny'n iawn. 

"Mae'r ffaith eu bod yn helpu 20,000 o bobl, yn aml iawn o fewn eu cartrefi, yn golygu eu bod yn tynnu llawer o bwysau oddi ar welyau'r GIG hynny, sydd eu hangen ar gyfer yr achosion brys."

Dywedodd Andy Goldsmith, Prif Weithredwr Hosbis Blant Tŷ Hafan: “Bydd y symiau hyn yn galluogi Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan i bron â chofnodi cyllideb gytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24.

“Heb y cyllid hwn, byddai’r ddwy hosbis blant wedi’u rhedeg ar ddiffyg ariannol, gan dynnu ar arian cyfyngedig wrth gefn.

“Fodd bynnag, er bod y cyllid yna i’w groesawu, nid yw’n galluogi i Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan ateb unrhyw beth tebyg i’r galw am y gofal rydym yn ei ddarparu.

“Mae yna dros 3,000 o blant yng Nghymru sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd eto rhwng Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan dim ond ychydig dros 400 ohonyn nhw rydyn ni’n gallu eu cefnogi ar hyn o bryd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.