Newyddion S4C

Huw Stephens: 'Dwi ddim wedi yfed alcohol ers tua saith mlynedd'

13/04/2024
Huw Stephens

Mae'r cyflwynydd a'r DJ Huw Stephens wedi datgelu ei fod wedi rhoi'r gorau i yfed alcohol tua saith mlynedd yn ôl.

Mae Huw ar hyn o bryd yn cyd-gyflwyno cyfres newydd gyda Beti George ar S4C, ag yntau wedi sôn am ei benderfyniad i beidio yfed alcohol yn ystod pennod gyntaf 'Cysgu o Gwmpas'.

Ac fe ddaeth y penderfyniad i roi’r gorau i yfed alcohol yn “rhwydd” iddo, meddai wrth siarad â Newyddion S4C. 

“Oedd ‘da fi dim problem yn yfed alcohol, o’n i ddim yn goryfed o’n i jyst yn ffansi gweld os oedd e’n bosib peidio yfed. Ac i fi oedd e’n bosib. 

“‘Nes i dal ‘neud popeth o’n i’n ‘neud, jyst heb alcohol,” meddai. 

'Dewis personol'

Mae’r cyflwynydd eisiau rhoi gwybod nad oes angen i bobl yfed er mwyn gallu mwynhau digwyddiadau cymdeithasol. 

“Fi’n meddwl y pwynt yw bod dim rhaid i chi yfed i fwynhau pethau. 

“Chi gallu mynd mas i’r pub a chi gallu mynd mas i gigs a chi gallu neud pethe’ a mynd i ŵyl a gêm rygbi hebddo fe – maen bosib ‘neud.”

Ond mae Huw hefyd yn awyddus i beidio annog pobl i newid eu ffordd o fyw, gan bwysleisio mai dewis personol yw penderfyniad o’r fath. 

“Dwi ddim eisiau annog pobl i ‘neud unrhyw benderfyniadau,” meddai. 

“Fi ddim ‘di gweud nai byth yfed eto, ‘nai ddim gweud nai byth yfed eto, ond dwi ddim yn misso fe.” 

'Hapus'

Fe gychwynnodd Huw ar beidio yfed alcohol wedi iddo ymrwymo i her 'mis Ionawr sych’ rhai blynyddoedd yn ôl. 

“‘Nes i ‘neud dry Jan a wedyn ‘nes i gario ‘mlaen am bach yn hirach a wedyn ‘nath y babi cyrraedd a wedyn nesi gario mlaen i beidio yfed wedyn.” 

Ac mae’r penderfyniad wedi bod yn fuddiol o ran ei les a’i hapusrwydd, meddai wrth Newyddion S4C. 

“I fi, fi jyst yn lot hapusach heb y booze

“Mae bywyd fi ‘di bod yn lot haws ar ôl i fi tynnu’r booze mas. Mae ‘di ‘neud fi person fwy calm

“A hefyd o’n i’n mynd yn hŷn ac 'odd y hangovers yn mynd yn waeth ag o’n i’n casáu’r teimlad ‘na o regret o – ‘Be nesi ddweud neithiwr?’ – ac o’n i’n casáu cael syniadau da ond peidio neud unrhyw beth amdanyn nhw.

“Felly nesi benderfynu, o'n i am stopo yfed.”

Llun: @huwstephensdj/Instagram

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.