Newyddion S4C

Gwasanaeth fferi dros dro i gysylltu Cymru gyda Gogledd Iwerddon

25/06/2021
CC

Fe fydd gwasanaeth fferi newydd yn lansio ddydd Gwener a fydd yn cysylltu gogledd Cymru gyda Gogledd Iwerddon am y tro cyntaf.

Mae cwmni Stena Line wedi cyhoeddi y bydd y gwasanaeth dros dro yn cael ei gynnal ar benwythnosau.

Fe fydd y daith gyntaf yn cychwyn o Gaergybi nos Wener, gyda’r gwasanaeth yn parhau tan ddydd Sul 18 Gorffennaf.

Stena Estrid, un o longau mwyaf newydd y cwmni, fydd yn darparu’r gwasanaeth dros y misoedd nesaf.

Mae disgwyl i daith y llong, a fydd yn darparu gwasanaeth ar gyfer teithiau hamdden a chludiant, gymryd tua 8 awr o Gaergybi i Belfast.

Gyda’r cyfyngiadau teithio presennol rhwng Prydain a Gweriniaeth Iwerddon, mae disgwyl y bydd y teithiau dros dro yn galluogi mwy o bobl i ymweld ag ynys Iwerddon a theithio ar fferi am y tro cyntaf.

Mae cost y daith yn £130 am gar a gyrrwr ac mae teithiau’n gadael Caergybi am 23:30 ar nosweithiau Gwener a Sadwrn gan adael Belfast am 9:30 fore Sadwrn a Sul.

Dywedodd Paul Grant, Cyfarwyddwr Masnach Stena Line (Môr Iwerddon): “Mae’r cyfyngiadau teithio presennol rhwng Prydain ac Iwerddon wedi creu llawer o alw am deithio felly gobeithio bydd ychwanegiad y daith newydd hon yn darparu opsiwn arall ar gyfer pobl sy’n ymweld â’u ffrindiau, perthnasau neu gymryd hoe yn ogystal â chynnig opsiwn deniadol i’n cwsmeriaid cludiant”.

Llun: Cityswift

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.