Euro 2020: Galw ar blant Cymru i ganu’r anthem genedlaethol
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn galw ar blant mewn ysgolion ledled Cymru i ganu’r anthem genedlaethol ddydd Gwener.
Bydd Cymru yn herio Denmarc yn rownd yr 16 olaf yn eu hymgyrch Euro 2020 ddydd Sadwrn.
Yn ôl y gymdeithas, bydd y fideos fydd yn cael eu casglu yn cael eu defnyddio i greu fideo “arbennig” ar gyfer diwrnod y gêm fawr.
Mewn neges ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd CPDC: “Cyn ein gêm UEFA Euro 2020 yn erbyn Denmarc, byddwn wrth ein boddau i weld cefnogaeth gan ein cefnogwyr ledled Cymru.
“Hoffem i ysgolion ledled y wlad i ganu Hen Wlad Fy Nhadau gydag angerdd fore dydd Gwener, a gyrru eich clipiau i ni ar gyfer cynhyrchiad arbennig fydd yn cael ei greu cyn diwrnod y gêm ddydd Sadwrn.
“Canwch gydag angerdd, dros Gymru”
Ymgyrch Llywodraeth y DU
Yn y cyfamser mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi annog plant mewn ysgolion ledled Prydain i ddathlu diwrnod ‘undod Prydeinig’, One Nation One Britain, ddydd Gwener.
Mae’r ymgyrch yn gobeithio y bydd plant yn canu anthem i ganu clod i 'undod' gwledydd Prydain.
Ymysg geiriau cân OBON mae'r frawddeg "Ni yw Prydain ac mae ganddom un freuddwyd - i uno'r holl bobl mewn un tîm."
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans