
Anrhydeddu arwr rhyfel achubodd un o adeiladau pwysicaf Cymru
Mae dyn wnaeth achub un o adeiladau mwyaf hanesyddol Cymru rhag bom trwy ddal bag tywod rhwng ei ddannedd a dringo i’r to wedi cael ei anrhydeddu ar ei ganfed pen-blwydd.
Roedd Ronald Brignall yn 16 oed pan achubodd neuadd y ddinas yng Nghaerdydd rhag difrod sylweddol yn ystod cyrch awyr Almaeneg yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nawr mae’n cael ei gydnabod am ei ymdrechion gan Gyngor Caerdydd.
Ar 2 Chwefror 1941, cariodd y dyn ifanc fag tywod rhwng ei ddannedd, gydag un arall dan ei fraich; tra'n dringo pibell 7.6 metr o hyd i diffodd tân ar do'r adeilad.

Ar y pryd roedd Mr Brignall yn cerdded adref o'r coleg, lle'r oedd yn astudio ar gyfer cymhwysterau plymio. Clywodd cloch rhybudd cyrch awyr, a gweld bom tân yn glanio ar do'r adeilad.
Wrth siarad gyda phapur lleol ar y pryd, dywedodd Mr Brignall bod ei ên yn boenus ar ôl cario’r bag tywod, a'i fod yn flin ganddo ei fod wedi difetha ei siwt.
Ddydd Iau, dywedodd: “Dim ond yn fy arddegau oeddwn i, doedd dim ofn gen i. O’n i jyst moyn gwneud yn siŵr doedd y bom ddim yn difetha neuadd y ddinas.”
Yn benderfynol o wneud cyfraniad pellach i'r ymdrech ryfel, fe aeth Mr Brignall ymlaen i weithio fel gwyliwr tân swyddogol, i helpu amddiffyn Caerdydd, cyn mynd ymlaen i ymuno â'r Awyrlu ym 1944.

I nodi'r achlysur mae Arglywydd Faer Caerdydd, Bablin Molik, wedi teithio i’r cartref gofal yn Sussex lle mae Mr Brignall yn byw bellach, er mwyn cyflwyno tystysgrif arbennig iddo, i ddiolch am ei ddewrder.
Dywedodd mab Mr Brignall, Ian: “Mae e wastad wedi bod yn ddyn gwylaidd ac yn anaml mae'n siarad am ei brofiad yn y rhyfel.
“Yr unig reswm roedden ni’n gwybod am ei gyfraniad y diwrnod hwnw oedd oherwydd bod e wedi cadw toriadau papur newydd o’r cyfnod.
“Mae dad yn eithaf bregus nawr, ond rwy’n gwybod ei fod wrth ei fodd yn derbyn y gydnabyddiaeth yma gan y cyngor. Mae’n anrheg perffaith ar ei benblwydd.”