Newyddion S4C

Y cerddor a'r cynhyrchydd Wyn Lewis Jones wedi marw

24/06/2021
Wyn Lewis Jones

Mae Wyn Lewis Jones, y cerddor, cynhyrchydd ac un o brif aelodau'r grŵp Ail Symudiad, wedi marw.

Cafodd y grŵp pync ei sefydlu yn 1978 pan roedd Wyn a'i frawd Richard Jones yn yr ysgol, ynghyd â Gareth Lewis ar y drymiau.

Yn frodor o Aberteifi, roedd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Cymru dros y blynyddoedd.

Roedd caneuon mwyaf poblogaidd Ail Symudiad yn cynnwys Garej Paradwys, Geiriau a Twristiaid yn y Dref.

Roedd eu caneuon poblogaidd wedi eu dylanwadu gan fandiau pync fel The Clash a'r Trwynau Coch, ac fe dyfodd eu poblogrwydd wrth deithio i berfformio mewn cyngherddau ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd.

Enillodd Ail Symudiad wobr prif grŵp Noson Sgrech yn 1982.

Fe sefydlodd Wyn Lewis Jones gwmni label recordiau Fflach gyda'i frawd yn 1981, cyn datblygu stiwdio recordio yn ddiweddarach, oedd yn gyfle i artistiaid newydd recordio deunydd am y tro cyntaf.

Datblygodd Fflach label cerddoriaeth Indie/dawns o dan yr enw Rasp. Ymysg yr artistiaid i recordio ar y label hwnnw oedd Swci Boscawen, Texas Radio Band a Vanta.

Wrth roi teyrnged i Wyn Lewis Jones nos Iau, dywedodd Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru fod ei farwolaeth yn "ergyd eto i'r byd pop Cymraeg ag i dref Aberteifi.

"Cymeriad tyner a direidus...gorffwysa nawr yn dy #garejparadwys".

Llun: @HanesAberteifi

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.