Newyddion S4C

Cynlluniau ar waith i ddelio gyda twristiaid yn Eryri

03/04/2024

Cynlluniau ar waith i ddelio gyda twristiaid yn Eryri

Anghofiwch am Old Kent Road. Dyma'r man cychwyn yn Eryri. Tŷ Hyll ger Betws-y-coed. Na, cha i ddim £200 ar ddechre'r daith hon ond gan daflu'r dis a gyrru drwy sawl man adnabyddus dyma anelu tua'r môr.

Mi oedd hi'n ddigon prysur dros y penwythnos yma yng Nghricieth a sawl cynllun rŵan ar y gweill i ddelio â'r torfeydd o ymwelwyr.

"Mae wyth safle ar gyfer motorhomes a campervans i aros dros nos. Mae 'na gyfleusterau'n dod efo parcio dros nos os ydych chi'n talu.

"Mae 'na le i wagio dŵr budr. Mae 'na ddŵr yfed glan a thoiledau'n cael eu hadnewyddu yma.

"Mae'n gynllun sy'n trio rhoi meddwl amgen i'r broblem sy'n cael ei greu gan campervans yn parcio mewn mannau cyhoeddus.

"Mae hwn yn gynllun sy'n trio cynnig rhyw fath o ateb i hynny."

Tro arall ar y dis a draw tua'r Bala. Mae prydferthwch Llyn Tegid wastad yn denu. Mae 'na hwb newydd i'r maes carafanau yma brofodd benwythnos llawn dop.

" 'Dan ni'n lwcus iawn o'r tywydd heddiw. Mae hi 'di bod yn ofnadwy. Mae pawb dal wedi dod yma fel tasai hi wel, mae'n Ŵyl y Banc dydy.

"Bydd pobl yn dod beth bynnag ydy'r tywydd."

Dechra tymor yr ymwelwyr. Dechra'r flwyddyn i chi mewn ffordd.

" 'Dan ni di agor ers y 1af o Fawrth ac yn eithaf prysur ers hynny. Mae pobl yn dal i ddod er gwaetha'r tywydd ofnadwy. Pawb yn dal i ddod.

"Dw i'n trio meddwl bod ni'n groesawgar iawn, fel bod pawb yn licio dod yma aton ni."

Bosib fyddwch chi'n brysurach fyth. Dach chi ar y bwrdd Monopoly.

" Do! Iei! Dyna beth braf. 'Dan ni mor falch bod ni wedi cyrraedd bwrdd Monopoly. 'Dan ni'n lwcus eithriadol ac yn browd iawn."

Wrth i filoedd dyrru am yr ardal mae 'na brawf nid dim ond o fewn ffiniau Eryri mae 'na drafferth.

Oes, mae sawl polisi ar waith i gwtogi ar nifer yr ail gartrefi. Ond ym Mhentir ger Bangor mae ymgyrch ar y gweill.

"Mae'n amlwg yn dafarn poblogaidd iawn a thrigolion wrth eu boddau."

Mae perchennog newydd y dafarn am ei droi yn AirBnB. A hynny heb blesio rhai.

" 'Dach chi angen asedau. Dach chi angen llefydd sydd yn hwb i gymuned neu mae cymuned yn mynd i farw ar ei thraed a mae hon yn gymuned hyfyw o bobl hyfryd. Maen nhw angen tafarn."

Nôl ar y lôn a diwedd y daith. Mae 'na lefydd gwell na Mayfair, oes. A mynydd uchaf Cymru yn orlawn dros y penwythnos.

" 'Dan ni'n hel 550 cilogram o sbwriel o'r mynydd. Lot o sbwriel."

A sawl ymgais ar waith i geisio nadu ymwelwyr rhag taflu sbwriel.

" 'Dan ni'n treialu ffyrdd newydd creadigol. Ymgyrchoedd digidol sydd yn cyrraedd gwahanol bobl trwy social media influencers a ballu.

"Trio ffeindio ffyrdd gwahanol i gyrraedd y bobl ydy'r peth pwysig. Fuodd 'na 'rioed amheuaeth.

Mae gan Eryri ddigon i'w gynnig. Yr ardal dawel yma unwaith eto yn deffro.gan droi'n faes chwarae i filoedd dros y misoedd sydd i ddod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.