Pryder am loÿnnod byw Cymru wrth i niferoedd rhai rhywogaethau syrthio’n sylweddol
Mae yna bryder ymhlith cadwriaethwyr wrth i nifer rhai mathau o bili-palaod yng Nghymru ostwng i’w lefel isaf erioed.
Cofnodwyd niferoedd 58 o loÿnnod byw fel rhan o arolwg Cynllun Monitro Gloÿnnod Byw blynyddol y DU (UKBMS) y llynedd, gyda'r canlyniadau wedi eu cyhoeddi ddydd Mercher.
Yng Nghymru, roedd niferoedd y Gwibiwr Llwyd wedi gostwng 44% mewn blwyddyn - cwymp o 81% mewn degawd.
Roedd niferoedd Gweirlöyn y Glaw wedi gostwng 36% ar y llynedd ar ddiwedd cwymp o 66% mewn degawd.
Roedd newyddion gwell i rai rhywogaethau fel Glesyn y Celyn a welodd gynnydd o 27%, a 112% mewn degawd.
Ar draws y DU roedd niferoedd y Britheg Berlog Fach ac un o’r pili-palaod mwyaf adnabyddus, y Trilliw Bach, ar eu hisaf erioed.
Ond roedd cynnydd yn y tymheredd yn golygu bod rhai rhywogaethau oedd yn arfer bob yn brin, fel y Fantell Goch, ar eu mwyaf cyffredin erioed.
Dywedodd Dr Richard Fox, Pennaeth Gwyddoniaeth corff Butterfly Conservation bod “niferoedd gloÿnnod byw yn amrywio’n naturiol o flwyddyn i flwyddyn, yn bennaf oherwydd y tywydd”.
“Ond mae tueddiadau hirdymor gloÿnnod byw'r DU yn cael eu gyrru’n bennaf gan weithgarwch dynol, gan gynnwys difrodi a dinistrio cynefinoedd, defnyddio plaladdwyr, llygredd a newid hinsawdd.
“Trwy fonitro tueddiadau hirdymor i loÿnnod byw gallwn ddysgu am effaith newid hinsawdd a ffactorau eraill ar ein bywyd gwyllt brodorol.”
Llun: I fyny ac i lawr - y Fantell Goch (chwith) a'r Trilliw Bach (dde).