Dedfrydu menyw o Gasnewydd ar ôl i gi gael ei ddarganfod yn farw
Mae menyw o Gasnewydd wedi derbyn dedfryd carchar wedi ei gohirio ar ôl i gi gael ei ddarganfod yn farw.
Roedd Alyshia Diana Taylor wedi pledio'n euog yn Llys Ynadon Casnewydd i dair trosedd o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Fe gafodd ei dedfrydu i garchar am 36 wythnos wedi ei ohirio am 18 mis yn ogystal â Gorchymyn Gweithgaredd Adsefydlu.
Clywodd y llys ei bod hi wedi achosi dioddefaint diangen drwy fethu â rhoi bwyd priodol i gi.
Fe gafodd corff y ci, o'r enw Dior, ei ddarganfod mewn cwt. Roedd ei asennau'n amlwg, ac fe gafodd dau gi arall eu darganfod mewn cyflwr gwael iawn.
Cafodd Taylor ei gwahardd rhag cadw unrhyw anifail am 10 mlynedd, a gorchymyn i dalu £975 tuag at gostau.
Dywedodd un o arolygwyr yr RSPCA Sophie Daniels fod yr elusen wedi derbyn galwad gan yr heddlu ar 30 Ionawr 2023 wedi i ddau gi gael eu trosglwyddo o'r ty i'r milfeddyg am driniaeth.
Roedd ci arall wedi cael ei ddarganfod yn farw yn yr eiddo.
Dywedodd Ms Daniels: "Mae'r adroddiad yn nodi fod gan y ci ddau glais ar ei wddf a'i fod wedi marw yn sgil necrosis sawl ardal o'r galon.
"Yn fy marn i, fe wnaeth Dior brofi dioddefaint diangen gan ei pherchennog yn sgil diffyg ei bwydo am gyfnod hir."
Fe gafodd un o'r ddau gi arall ei ail-gartrefu ond bu farw yr un arall oherwydd ei gyflwr.