Sŵ yn dathlu genedigaeth mwnci prin
Mae sŵ yn Sir Gaerlŷr yn dathlu genedigaeth preimat sef math o fwnci prin.
Mae gan y creadur ffwr oren llachar, ac yn ôl gweithwyr y sŵ, bydd hynny'n galluogi ymwelwyr i'w weld yn syth.
Dywedodd Kelly Salisbury, syn gofalu am y preimat yn Sŵ Twycross bod cynnwrf mawr yno.
“Yng nghanol gwyliau'r Pasg, mae'n amser delfrydol i ddod i weld ein babi newydd a darganfod mwy am y creaduriaid rhyfeddol yma.”
Mae'r preimat, sy'n hannu o Tsieina a Fietnam ar restr o greaduriad a allai ddiflannu oddi ar y blaned.
Y gred yw mai 2,000 yn unig sy'n byw yn y gwyll, gyda dadgoedwigo yn un o'r rhesymau am eu sefyllfa fregus.
Mae'r preimat yn cael gofal gan ei fam 17 oed.