Newyddion S4C

Gohirio agor canolfan ganser newydd Felindre tan 2027

29/03/2024
felindre.png

Ni fydd canolfan ganser newydd Felindre yng Nghaerdydd yn agor tan 2027.

Y gobaith oedd y byddai'r ganolfan newydd yn gallu cael ei hagor yn y brifddinas yn 2024, ond bellach mae wedi cael ei gohirio am dair blynedd arall.

Mae'r ganolfan ganser bresennol yn dyddio yn ôl dros 68 o flynyddoedd ac mae'n gwasanaethu pobologaeth o 1.7 miliwn o gleifion yn ne-ddwyrain Cymru.

Fe fydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf ar y safle yn yr Eglwys Newydd yn y ddinas.

Ers i'r cynlluniau gael eu cymeradwyo, mae ymgyrchwyr wedi bod yn codi eu pryderon am sut y bydd adeiladu'r ganolfan newydd yn effeithio ar ardal y dolydd gogleddol (Northern Meadows).

Fe fydd y ganolfan yn "gyfleuster o'r radd flaenaf" ac yn "fuddsoddiad sylweddol" yn ôl Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Dywedodd Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: "Mae heddiw yn garreg filltir bwysig yn y prosiect i adeiladu ein canolfan ganser newydd, mawr ei hangen. 

"Nawr, byddwn yn adeiladu cyfleuster GIG o'r radd flaenaf a fydd yn cefnogi ein staff i ddarparu gofal o'r safon uchaf i gleifion canser ledled de Cymru a thu hwnt. 

"Bydd yn weithle ysbrydoledig i'n staff ymroddedig ffynnu, a chefnogi ymchwil a chydweithio o fri rhyngwladol ym maes canser ledled y rhanbarth."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Prosiect Richard Coe: "Bydd ein dyluniad yn sicrhau bod y ganolfan newydd yn cael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd a'i bod yn darparu cyfleuster ymarferol, cain lle gall cleifion, staff a'r gymuned ehangach ddefnyddio'r ganolfan a'r tirlun newydd. 

"Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar gleifion a'u teuluoedd am flynyddoedd i ddod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.