Sgandal Swyddfa'r Post: Galw am gynnal ymchwiliad heddlu
Mae cyn is-bostfeistri a gwleidyddion wedi galw am ymchwiliad heddlu i Swyddfa'r Post wedi i'r BBC ddatgelu fod y cwmni yn ymwybodol o'r diffygion gyda'r system gyfrifiadurol Horizon.
Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU Rishi Sunak ym mis Ionawr gynlluniau i wrthdroi euogfarnau cannoedd o is-bostfeistri Swyddfa’r Post a gafodd eu cyhuddo ar gam yn sgil sgandal Horizon.
Fe wnaeth meddalwedd Horizon arwain at achosion troseddol yn erbyn 700 o is-bosteistri, gan gynnwys nifer yng Nghymru, am fod y system honno wedi gwneud iddi ymddangos fod arian ar goll.
Mae dogfen wedi datgelu bellach fod penaethiaid a chyfreithwyr yn ymwybodol o'r diffygion yn 2017, ond wedi parhau i ddadlau mai'r cyn is-bostfeistri oedd ar fai.
Roedd Swyddfa'r Post wedi defnyddio £100 miliwn o arian cyhoeddus ar gostau ynghlwm ag amddiffyn eu hachos.
Dywedodd yr AS Kevan Jones, sy'n cynghori gweinidogion ar iawndal Swyddfa'r Post, fod "angen i'r heddlu ddechrau ymchwilio i hyn".
Dywedodd Swyddfa'r Post yn gynharach y byddai'n "amhriodol i wneud sylwad".
Mae ymchwiliad drafft mewnol a gafodd ei weld gan y BBC yn datgelu fod Swyddfa'r Post yn ymwybodol yn 2017 y gallai system Horizon fod yn ddiffygiol.
Mae'r ymchwiliad yn cyfeirio at ganfyddiadau yn cael eu trafod gyda "rheolwyr Swyddfa'r Post" ac ymchwilwyr ar yr adeg hynny.