Bachgen 8 oed yr unig berson i oroesi damwain bws a laddodd 45 person yn Ne Affrica
28/03/2024
Bachgen wyth oed yw'r unig berson i oroesi damwain bws yn Ne Affrica sydd wedi lladd 45 person.
Mae'r bachgen yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd y weinidogaeth drafnidiaeth yn y wlad bod y gyrrwr wedi colli rheolaeth ar y bws ac fe wrthdarodd â rhwystr ffordd ar bont.
Achosodd hyn i'r bws gwympo dros y bont ac fe aeth ar dân.
Digwyddodd y ddamwain ger Mamatlakala yn nhalaith Limpopo wrth gludo pobl o Fotswana ddydd Iau.
Parhaodd ymgeisiadau achub tan oriau hwyr nos Iau, ac mae'r awdurdodau yn parhau i geisio adnabod rhai o'r teithwyr.
Llun: Adran Trafnidiaeth a Diogelwch Cymunedol Limpopo