Mwy na 400 achos newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru
24/06/2021
Mae dros 400 achos newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf.
Dyma'r nifer uchaf o achosion i gael eu cofnodi mewn diwrnod ers dechrau mis Chwefror, yn ôl WalesOnline.
Cafodd 209 achos o amrywiolyn Delta eu cofnodi dros y tridiau diwethaf, gyda'r cyfanswm o achosion o'r amrywiolyn bellach wedi codi i 788.
Roedd y gyfradd o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth ar ei huchaf yn y gogledd - Sir y Fflint (99.9), Conwy (88.7) a Sir Ddinbych (72.1).
Darllenwch y stori'n llawn yma.