Dedfryd 24 mlynedd i ddyn o Ben-y-bont am droseddau rhyw yn erbyn plant
Mae dyn o Ben-y-bont wedi cael dedfryd o 24 mlynedd yn y carchar am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Fe gafwyd Steven Felix, 36 oed, o Fracla yn euog o 24 trosedd rhyw, gan gynnwys treisio a gweithgaredd rhyw gyda phlentyn.
Roedd Felix wedi bod yn cam-drin plentyn dan 13 mlwydd oed rhwng haf 2019 a diwedd 2020.
Fe wnaeth dderbyn dedfryd o 24 mlynedd yn y carchar, yn ogystal â gorchymyn trwydded am chwe blynedd ychwanegol a Gorchymyn Atal Niwed Rhyw (SHPO) am weddill ei fywyd.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Jo Williams-Smith: “Mae Steven Felix yn unigolyn bygythiol a wnaeth gymryd mantais ar blentyn, cyn eu cam-drin mewn ffordd erchyll.
“Mae’n rhaid i’r dioddefwr yn yr achos hwn fyw gyda’r cof am y cam-drin ofnadwy hwn.
“Rwy’n falch bod y llys wedi cydnabod hyn drwy roi’r ddedfryd hir o garchar i Steven Felix, sef y canlyniad yr oedd yr achos yn ei haeddu.
“Hoffwn roi teyrnged yn bersonol i’r dioddefwr am ddod ymlaen a chadw at yr ymchwiliad. Diolch i'w dewrder hwy y cawsom erlyniad llwyddiannus.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn anogaeth i ddioddefwyr eraill cam-drin rhywiol ddod ymlaen.
“Byddwn yn eich credu ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
“Rydym yn cymryd pob honiad o gam-drin rhywiol o ddifrif.”
Llun: Heddlu De Cymru