Newyddion S4C

Galw am fwy o gymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg

Newyddion S4C 27/03/2024

Galw am fwy o gymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg

“Ddylai neb wynebu rhwystrau i dderbyn y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw”.

Dyna neges elusen iechyd meddwl sy’n dweud ei fod yn hanfodol i bobl gael cymorth yn yr iaith maen nhw’n dewis.

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan raglen Newyddion S4C i saith o fyrddau iechyd Cymru yn dangos bod 30 o gwnselwyr yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg.

Mae Elen Wyn Jones o Ynys Môn wedi bod yn byw hefo problemau iechyd meddwl ers ei harddegau.

“Dwi wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, iselder ac ychydig o orbryder ers o’n i tua undeg chwech oed.”

“Pan o’n i’n undeg chwech, oedd profi’r teimladau ma yn eitha confusing.”

“Dwi wedi dechrau dysgu sut i ymdopi hefo’r peth. Ma saith mlynedd yn lot o amser ond mae wedi rhoi lot o amser i fi allu deall fy nheimladau a be sy’n helpu fi’n bersonol”.

Mae siarad, ymarfer corff a meddyginiaeth yn rhai o’r pethau sydd wedi helpu Elen dros y blynyddoedd. Er hyn, mae hi’n rhwystredig nad ydi hi wedi cael y dewis i gael cymorth yn y Gymraeg.

“Yn y brifysgol mi nes i drio sesiynau cymorth iechyd meddwl. Yn bennaf roeddwn i eisiau sesiynau yn y Gymraeg ond doedd y brifysgol ddim yn cynnig y cymorth yna. Roedd hynny wir yn rhwystredig i fi fel rhywun sy’n iaith gyntaf Cymraeg.”

Mae cais rhyddid gwybodaeth i’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn dangos faint o gwnselwyr sydd yn cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg, gyda’u sgiliau yn amrywio o fod yn sylfaenol i rhugl.

Mae’r ffigyrau yn dangos mai dim ond un sydd ym mwrdd iechyd y gogledd, dau ym mwrdd iechyd Abertawe a phedwar ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae’r niferoedd ychydig yn uwch ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, Powys a Chwm Taf Morgannwg a dim cwnselwyr o gwbl o ran y Gymraeg yng Nghaerdydd a’r Fro.

Abertawe: 2

Aneurin Bevan: 4

Betsi Cadwaladr: 1

Caerdydd a’r Fro: 0

Hywel Dda: 7

Powys: 8

Cwm Taf Morgannwg: 7

Mae Sara Mai yn seicotherapydd sydd wedi gweithio yn y maes ers pymtheg mlynedd. Mae hi'n credu bod rhai pobl yn ei gweld hi‘n haws rhannu eu teimladau yn eu hiaith gyntaf.

“Dwi’n gweithio hefo cleientiaid ledled Cymru sydd yn stryglo i ffeindio cwnselwyr Cymraeg ac wedi trio rhai Saesneg ond teimlo fel ‘da nhw methu bod yn vulnerable a rhannu be fysa nhw’n licio yn eu hail iaith”. 

Image
Sara Mai
Sara Mai

Yn ddiweddar fe lansiodd elusen Mind Cymru ymgyrch newydd i dynnu sylw at y gefnogaeth maen nhw’n ei gynnig yn y Gymraeg.

O’r hanner miliwn o bobl aeth ati i chwilio am gymorth ar-lein ganddyn nhw y llynedd, roedd tua 1 o bob 10 yn chwilio am gymorth yn y Gymraeg.

Yn ôl Nia Evans, rheolwraig iechyd meddwl plant a phobl ifanc yr elusen:

“Mae Mind Cymru yn awyddus iawn i gael mwy o ddarpariaeth ar draws Cymru gyfan ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Mae’n gallu bod yn anodd beth bynnag i ddechrau siarad am deimladau, deall beth sy‘n digwydd a prosesu be ‘dach chi’n mynd trwyddo. Mae lot mwy i wneud yn siwr bod y ddarpariaeth yna i unrhyw un sydd angen cymorth drwy’r Gymraeg.‘

Yn ôl yr elusen, ddylai neb wynebu rhwystrau i dderbyn y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw.

“Dydi nifer y cwnselwyr sydd ymhob bwrdd iechyd ddim digon da. Mae yna ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru o ran yr hyn maen nhw eisiau ei wneud ond ‘dan ni angen gweld hyn yn cael ei drosglwyddo o fod yn bolisiau a strategaethau i wasanaethau.”

Yn ol Llywodraeth Cymru, mae unigolion ar eu mwyaf bregus pan maen nhw’n cael cymorth iechyd meddwl ac felly mae’n hanfodol iddynt allu siarad yn eu hiaith eu hunain bryd hynny. 

Mae nhw’n dweud hefyd eu bod yn gweithio tuag at eu nod pum mlynedd o gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Prif lun o Elen Wyn Jones

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.