O leiaf pump wedi marw mewn damwain ffordd yn yr Almaen
Mae o leiaf pump o bobl wedi marw a nifer wedi eu hanafu mewn damwain ffordd ger dinas Leipzig yn Yr Almaen.
Fe wnaeth y bws FlixBus, oedd yn cario 53 o bobl a dau yrrwr, droi ar ei ochr ar draffordd brysur ger y ddinas yn nwyrain y wlad fore Mercher.
Mae'r cwmni yn rhedeg gwasanaethau bws ar gyfer teithiau hir ar draws Ewrop, ac fe ddechreuodd y daith yn ninas Munich.
Yn ôl y cwmni, digwyddodd y ddamwain am tua 10:00 fore Mercher, a nid yw "union amgylchiadau y ddamwain yn hysbys eto."
Dywedodd yr heddlu fod hofrenyddion achub a nifer o ambiwlansys wedi cael eu galw i'r ddamwain, ac fe gafodd ysbytai lleol wybod i baratoi am argyfwng.
Ychwanegodd y cwmni mewn datganiad: "Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y ddamwain a'u teuluoedd."