Newyddion S4C

Mam bachgen fu farw ar y Gogarth yn galw am reoleiddio'r Sgowtiaid

27/03/2024
Ben Leonard

Mae mam bachgen 16 oed fu farw ar ôl syrthio oddi ar Ben y Gogarth yn Llandudno wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth y DU i reoleiddio'r Sgowtiaid. 

Daw hyn yn sgil marwolaeth ei mab, Ben Leonard wedi iddo ddisgyn 200 troedfedd ger Llandudno yn 2018. Roedd y bachgen ar daith gyda’r Sgowtiaid Reddish Explorer o Stockport ym Manceinion ar y pryd.

Daeth y crwner i'r casgliad ei fod wedi ei ladd yn anghyfreithlon. 

Dywedodd ei fam, Jackie Leonard, fod marwolaeth ei mab wedi cael "effaith ofnadwy" ar ei theulu.

Mae'n galw ar i'r sefydliad gael ei reoleiddio gan gorff allanol i'w wneud yn "ddiogel" ac atal rhagor o blant rhag marw.

Daeth cwest i'r casgliad fod Ben wedi ei ladd yn anghyfreithlon gan arweinydd y Sgowtiaid a'r dirprwy arweinydd. Dywedodd y crwner bod esgeulustod gan Gymdeithas y Sgowtiaid hefyd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Dyma'r ail gwest i farwolaeth y llanc, wedi pryderon fod y rheithgor yn yr achos cyntaf wedi’u camarwain gan Gymdeithas y Sgowtiaid.

Mae cyfreithwyr teulu Ben yn honni bod yna 12 marwolaeth yn gysylltiedig â'r Sgowtiaid neu deithiau'r Sgowtiaid yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

'Dafydd a Goliath'

Mae Ms Leonard bellach wedi dechrau cydweithio gyda theuluoedd Lee Craddock, Scott Fanning a Roy Thornton, fu farw ar deithiau gyda'r Sgowtiaid ym 1995, 1998 ac 1999.

Maent yn gofyn ar y llywodraeth i lansio ymchwiliad cyhoeddus i "hyfforddiant a pholisïau" y sefydliad.

"Fel gyda Swyddfa'r Post, mae'n sefyllfa Dafydd a Goliath pan mae gennych chi sefydliad rhyngwladol ac wedyn ychydig o deuluoedd sy'n ceisio sicrhau newid," meddai Ms Leonard.

"Dydyn ni ddim eisiau gweld y Sgowtiaid yn cael ei ddileu nac unrhyw beth fel yna, gan fod yna nifer o bobl dda yn y Sgowtiaid yn gwneud gwaith da ac mae llawer o blant yn mwynhau.

"Fe wnaeth Ben fwynhau. Ond mae angen i bethau gael eu gwneud yn ddiogel, a dyna pam yr ydym ni eisiau eu gweld nhw'n cael eu rheoleiddio gan gorff allanol, fel ysgolion a chanolfannau eraill."

Mae o gwmpas 500,000 o bobl ifanc a 145,000 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau a gweithgareddau'r Sgowtiaid yn wythnosol yn ôl ffigyrau'r sefydliad.

Ychwanegodd Ms Leonard: "Dwi'n gwybod o siarad gyda mamau eraill nad ydy'r torcalon yn diflannu, hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach.

"Dyna pam fod y ddeiseb yma mor bwysig."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Sgowtiaid: "Cadw pobl ifanc yn ddiogel ydy ein prif flaenoriaeth.

"Rydyn ni'n edrych yn ofalus ar bob digwyddiad i sicrhau ein bod ni'n creu'r amgylcheddau mwyaf diogel posibl ar gyfer y miloedd o bobl ifanc sy'n cymryd rhan gyda'r Sgowtiaid bob blwyddyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.