Newyddion S4C

Chwilio am bobl wedi i bont ddymchwel yn Baltimore America

26/03/2024

Chwilio am bobl wedi i bont ddymchwel yn Baltimore America

Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio am bobl yn y dŵr yn Baltimore, yn nhalaith Maryland yn America ar ôl i bont ddymchwel. 

Cafodd pont Francis Scott Key yn Baltimore ei tharo gan long nwyddau tua 01:30 y bore.

Mae dau o bobl wedi cael eu hachub o'r dŵr hyd yn hyn gydag un mewn cyflwr difrifol.  Y gred yw bod o leiaf 7 o bobl a sawl cerbyd wedi disgyn i mewn i afon Patapsco yn ystod oriau man y bore.

Yn eu plith roedd tractor yn tynnu treilar. 

Mae'r gwasanaethau brys wedi datgan bod hwn yn "ddigwyddiad mawr".

Yn ôl pennaeth yr heddlu does dim tystiolaeth i gredu bod yr hyn ddigwyddodd wedi bod yn fwriadol nac yn weithred terfysgol.

Mewn cynhadledd i'r wasg dywedodd Maer Baltimore, Brandon Scott bod yr hyn sydd wedi digwydd yn "drasiedi na fyddai rhywun wedi dychmygu."

"Mae'n rhaid i ni fod yn meddwl am y teuluoedd a'r bobl sydd wedi eu heffeithio, y trigolion rydyn ni angen ceisio achub. Dyna beth sydd angen i ni fod yn canolbwyntio arno nawr."

Mae'r Tŷ Gwyn wedi dweud eu bod nhw mewn cysylltiad gyda maer a llywodraethwr Baltimore er mwyn cynnig unrhyw gymorth sydd angen a'u bod yn "cadw golwg" ar y sefyllfa. 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.