Newyddion S4C

Cymru angen un fuddugoliaeth arall i gyrraedd Euro 2024

26/03/2024

Cymru angen un fuddugoliaeth arall i gyrraedd Euro 2024

Fe fydd Cymru yn sicrhau eu lle yn Euro 2024 am y trydydd tro yn olynol os ydynt yn ennill yn erbyn Gwlad Pwyl nos Fawrth.

Enillodd Cymru o bedair gôl i un yn erbyn Y Ffindir yn rownd gyn-derfynol gemau ail-gyfle Euro 2024 nos Iau i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.

Llwyddodd Gwlad Pwyl i guro Estonia o 5-1 ar yr un noson.

Fe fydd y ddau dîm yn gobeithio sicrhau eu lle yn Yr Almaen gyda buddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Wrth siarad cyn y gêm fe ddywedodd capten Cymru, Ben Davies bod y garfan yn gallu cystadlu gydag unrhyw wlad.

"Maen nhw'n dîm da, so ni'n mynd i gymryd unrhyw beth oddi wrthyn nhw.

" 'Da ni wedi bod yn dangos 'da ni yn gallu cystadlu yn erbyn unrhyw un.

" 'Da ni'n gobeithio bod ni'n gallu gwneud y swydd o fewn 90 munud."

Mae'r awdurdodau hefyd wedi cynghori pobl sy'n teithio i'r gêm i adael digon o amser er mwyn cyrraedd mewn pryd.

Image
Malcolm Allen
Cyn-ymosodwr Cymru, Malcolm Allen

Mae Malcolm Allen, cyn-ymosodwr Cymru, yn hyderus y gall tîm Rob Page guro Gwlad Pwyl nos Fawrth. 

"Am gêm i edrych ymlaen i. Da ni'n barod. Neshi gal y teimlad bod ni mewn lle da cyn gêm y Ffindir - da ni mewn lle gwell ar ôl gêm y Ffindir.

"Ond rŵan, da ni angen cyrraedd tir newydd. Yr uchelder o'r safon perfformiadau.

"Gesh i'r fraint yn yr ymgyrch yma, i wylio Cymru yn curo Croatia o 2-1 gartref.

"Oedd y perfformiad yna y gorau dwi di weld ers 2016, efo Harry Wilson yn sgorio dwy.

"Wel, da ni angen perfformiad fel 'na neu gwell nos Fawrth. A wneith nhw ddim gadael ni i lawr, coeliwch chi fi.

"Ia, Gwlad Pwyl yn sgorio pump yn erbyn Estonia noson o'r blaen, yn erbyn 10 dyn. Ond ydyn nhw'n gwybod byddan nhw'n chwarae'n erbyn 12 dyn yn  Stadiwm Caerdydd nos Fawrth? Efo'r dorf mawr 'na? Efo'r sŵn? Efo'r teimlad, efo'r emosiwn, efo'r anthem? Ia, am gêm i edrych ymlaen i.

"Cymru yn curo'r gêm yma o ddwy gôl i ddim. A da ni ar y ffordd i'r Almaen. C'mon Cymru!"

Profiad

Mae gan Gymru brofiad o chwarae mewn gemau ail-gyfle, wedi iddynt guro Awstria ac yna Wcráin i gyrraedd Cwpan y Byd 2022.

Ond mae angen i Gymru fod ar eu gorau i gyflawni hynny eto.

Y tro diwethaf i Gymru herio Gwlad Pwyl oedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn 2022.

Colli 2-1 oddi cartref, a cholli 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd oedd y canlyniadau bryd hynny.

Dyw Cymru ddim wedi ennill yn erbyn Gwlad Pwyl ers dros 50 mlynedd. 1973 oedd y tro diwethaf i'r Dreigiau guro eu gwrthwynebwyr nos Fawrth.

Pe bai Cymru yn llwyddo i gyrraedd yr Almaen yn yr haf, fe fyddan nhw yn yr un grŵp â’r Iseldiroedd, Awstria a Ffrainc.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.