Rapide! Gweinyddion yn rasio ar hyd strydoedd Paris
Mae ras ble mae gweinyddion bwyd yn gwisgo yn eu gwisgoedd traddodiadol a chario platiau o fwyd wedi dychwelyd i strydoedd Paris ddydd Sul am y tro cyntaf ers dros ddegawd.
Mae ras Course des Cafés, sef Ras Gweinyddion Caffi, wedi cael ei chynnal am y tro cyntaf ers 2011, gyda dros 200 o bobl yn cymryd rhan.
Roedd rhaid i’r gweinyddion cario hambwrdd yn cynnwys croissant, cwpanaid o goffi a gwydraid o ddŵr gan rasio mor gyflym â phosib tuag at y llinell terfyn – ond heb ollwng unrhyw hylif.
Roedd beirniaid ar y llinell terfyn yn mesur yr hylif oedd yn weddill, gan dynnu pwyntiau oddi’r rheiny a wnaeth gollwng coffi neu dŵr.
Fe gafodd y ras 2km o hyd ei chynnal yn ardal Marais ym mhrifddinas Ffrainc, gan gychwyn ger neuadd y dref, neu’r Hotel de Ville yng nghanol y ddinas.
Cafodd ei chynnal am y tro cyntaf yn 1914, ond fe gafodd ei chanslo yn 2011 oherwydd prinder cyllid gan noddwyr.
Mae’r ras bellach wedi cael ei chynnal unwaith eto wrth i Baris edrych ymlaen at gynnal Gemau’r Olympaidd yno eleni.
Lluniau: Wochit