Newyddion S4C

Ymgais i daclo 'ymddygiad gwrthgymdeithasol' yn Eryri

25/03/2024
Nant Gwynant

Mae ymdrechion i fynd i'r afael ag effeithiau 'ymddygiad gwrthgymdeithasol' gan ymwelwyr sydd yn dod i Eryri.

Mae diwrnod arbennig wedi’i drefnu ddydd Llun fel rhan o ymdrech ar y cyd i ddiogelu tirweddau Nant Gwynant ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Fe ddaw’r ymdrechion er mwyn ceisio mynd i’r afael ag “arferion ymweld anghynaladwy” gan dwristiaid sy’n ymweld â’r ardal a Llwybr Watkin hefyd.

Ers y cyfnod pandemig mae cynnydd wedi bod mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol meddai’r partneriaid sy’n trefnu’r diwrnod.

Taflu sbwriel, parcio’n anghyfreithlon ac achosi tagfeydd parcio yw rhai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd yn yr arda. 

Bwriad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Heddlu Gogledd Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r Cynghorydd lleol June Jones yw codi ymwybyddiaeth am y pwysigrwydd o barchu’r cymunedau lleol. 

'Annerbyniol'

Mae mynd i’r afael â pharcio anghyfreithlon am chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgyrch, meddai prif arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Lisa Jones. 

“Wrth i ni fentro i’r Gwanwyn, rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn cychwyn mentro allan i fwynhau golygfeydd godidog Eryri. Fodd bynnag, gyda hyn mewn cof, rydym unwaith eto yn annog pobl i fod yn gyfrifol.

“Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym wedi’i weld yn flaenorol mewn rhai ardaloedd wedi bod yn annerbyniol. 

"Nid yn unig yn peryglu bywydau ond hefyd yn atal mynediad brys i gerbydau, gan gynnwys mynediad i Dimau Achub Mynydd.”

'Bregus'

Ac mae'r diwrnod hefyd yn nodi ymrwymiad ehangach rhwng yr asiantaethau gan ddweud eu bod yn awyddus i barhau i gydweithio yn y dyfodol er mwyn hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones: "Mae Nant Gwynant yn agos at galonnau pobl leol ac ymwelwyr. 

"Fodd bynnag, mae ei ecosystem fregus a'i harddwch o dan fygythiad fwyfwy gan arferion ymweld anghynaladwy. 

“Drwy'r diwrnod amlasiantaethol hwn, ein nôd yw datblygu diwylliant o dwristiaeth gyfrifol, annog ymwelwyr i droedio'n ysgafn, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o drefi porth, a pheidio â thaflu sbwriel."

Llun: Wikipedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.