Newyddion S4C

'Hwn yw'r diwedd': Rhaglen am ansicrwydd gwaith dur Tata

25/03/2024
Kelvin Edwards

Wrth i bryderon am ddyfodol safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot barhau, mae rhaglen S4C wedi dilyn taith trigolion wrth iddyn nhw ddygymod â chyfnod o ansicrwydd. 

Fe ddaw’r rhaglen Port Talbot - Diwedd y Dur?, wrth i tua 2,000 o weithwyr gwaith dur Tata ddisgwyl cael eu diswyddo.

Mae'r cwmni yn symud tuag at gynhyrchu dur mewn ffordd sy’n fwy llesol i’r amgylchedd. 

Cafodd y ffwrnesi golosg ar y safle eu cau yn gynharach yn y mis, ac mae cynlluniau i osod ffwrnais drydan modern yno ar ôl degawd o golledion ariannol.

Mi fydd y rhaglen ddogfen yn cael ei darlledu am 20.00 nos Lun, gan ddangos effaith cau’r gwaith dur ar y gymuned – a hynny “trwy lygaid” trigolion Port Talbot. 

Kelvin Edwards o ardal Sandfields sydd ymysg y rheiny sy’n ymddangos ar y rhaglen. Fe symudodd o i’r dref o Lanelli yn ddwy oed wedi i’w dad gael swydd yn y ffatri. 

“Y gwaith dur oedd y cwmni o’dd yn cymryd y mwyaf o brentisiaid ymlaen,” meddai Kelvin fu’n gweithio fel asiwr (welder) yno.

“O’dd bawb mewn cyflogaeth a doedd dim tlodi. Roedd ‘na wastad gwaith. 

“A ’na’r peth pwysig yn unrhyw gymuned yw bod gwaith ’da chi. Heb waith mae’r gymuned yn tueddu i chwalu hefyd.”

Image
Gwaith dur Tata

Gobaith

Mae cau safle gwaith dur Tata yn dangos taw “hwn yw’r diwedd,” meddai Kelvin. 

“Yr adrannau maen nhw’n galw’n heavy end - yr ochr drwm, lle mae lot o’r gweithwyr.  

“Yn yr adrannau yma, am bob gweithiwr gwaith dur sy’n cael ei gyflogi ‘da Tata, mae o leiaf 7, 8 falle 10 o gontractwyr ynghlwm â’r gwaith. 

“Felly er falle dweud mai 3,000 neu 4,000 sy’n gweithio i Tata, ar y safle bob dydd allwch chi warantu bod dros 10,000. 

“Felly mae effaith y colledion yn mynd i fod lot yn fwy na maen nhw’n cyhoeddi.”

Ond er gwaethaf colli swyddi, mae un dirprwy bennaeth ysgol Gymraeg yr ardal yn awyddus i bwysleisio nad yw’r dref heb obaith nac uchelgais. 

Fel dirprwy bennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Dur yn Sandelfields, dywedodd Sioned Jones: “Mae enw’r ysgol yn dangos pa mor ganolog ydi dur i hunaniaeth yr ardal – mae’n cyfleu'r hyn sy’n bwysig yn yr ardal.

“Mae Port Talbot yn le arbennig iawn, ac mae ei phobl yn arbennig hefyd. 

“Swyddogaeth yr ysgol ydi rhoi sefydlogrwydd i’r disgyblion a’u teuluoedd,  sicrhau balchder yn eu hunaniaeth, a chadw’u huchelgais nhw - a sicrhau bod lle i’r Gymraeg,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.