Newyddion S4C

‘Mae Cymru a’r byd gyda chi’: Negeseuon o gefnogaeth yn dilyn diagnosis canser Tywysoges Cymru

23/03/2024
Zeta-Jones / Middleton / Dowden (PA)

Mae Catherine Zeta-Jones ymhlith yr enwogion sydd wedi rhannu negeseuon o gefnogaeth gyda Thywysoges Cymru yn dilyn y cyhoeddiad ei bod yn derbyn triniaeth am ganser.

Daeth cyhoeddiad gan Balas Kensington ddydd Gwener bod Catherine Middleton, gwraig Tywysog Cymru, wedi dechrau derbyn triniaeth cemotherapi fis diwethaf.

Fe gafodd y canser ei ddarganfod mewn profion a gafodd eu gwneud ar ôl iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.

Mewn fideo yn cyhoeddi’r diagnosis, dywedodd y Dywysoges ei fod yn “sioc enfawr” i dderbyn y diagnosis, a bod y ddau fis diwethaf wedi bod yn “hynod o anodd” iddi hi a’i theulu.

Nid yw'r math o ganser wedi cael ei ddatgelu ar hyn o bryd.

Mae’r Brenin Charles III, a gafodd ddiagnosis canser ei hun fis Chwefror, wedi dweud ei bod yn “falch” o’i “annwyl” ferch-yng-nghyfraith am ei “dewrder” am siarad am ei thriniaeth yn gyhoeddus.

Daeth negeseuon o gefnogaeth gan Ddug a Duges Sussex, Harry a Meaghan, a ddywedodd eu bod yn “dymuno iechyd a gwellhad i Kate a’r teulu, yn y gobaith y gallen nhw wneud gyda phreifatrwydd a heddwch”.

Mae Cymru a’r byd gyda chi’

Mae enwogion ledled y byd hefyd wedi rhannu negeseuon gyda’r Dywysoges, gan gynnwys yr actores o Abertawe, Catherine Zeta-Jones, y ddawnswraig Strictly Come Dancing, Amy Dowden, yr actores Jamie Lee Curtis a’r gyflwynwraig Davina McCall.

Mewn neges ar gyfrwng Instagram, dywedodd Catherine Zeta-Jones: “Mae Cymru a’r byd gyda chi, Tywysoges Cymru. Cariad bythol i chi.”

Dywedodd Amy Dowden bod y newyddion am ddiagnosis y Dywysoges wedi ei “tharo’n galed.”

Cafodd Ms Dowden, o Gaerffili, ddiagnosis canser y fron ym mis Mai 2023.

Ar ôl derbyn triniaeth masectomi, fe wnaeth y ddawnswraig 33 oed gwblhau cemotherapi fis Tachwedd y llynedd.

Mae doctoriaid bellach wedi dweud wrthi ‘nad oes unrhyw dystiolaeth o glefydau’ yn ei chorff,  ond y bydd angen iddi dderbyn pigiad misol am gyfnod estynedig, gennym ni fydd y canser yn gadael yn gyfan gwbl am bum mlynedd.

Dywedodd mewn neges ar Instagram: “Mae’r newyddion wedi fy nharo yn galed, yn bersonol. Dw i’n meddwl am ein Tywysoges.”

Mae’r actores Hollywood Jamie Lee Curtis wedi erfyn ar bobl i beidio â hapfasnachu am y teulu Brenhinol ac i roi 'preifatrwydd' i’r Dywysoges wrth iddi dderbyn triniaeth.

Dywedodd Jamie Lee Curtis “Dyma berson sydd gyda phlant ifanc ac yn amlwg rhyw fath o broblem iechyd. Nawr mae’r Dywysoges Kate wedi dweud wrthym ni am ei hiechyd, a dylwn ni wneud dim byd ond rhannu ein dymuniadau gorau gyda hi a’i theulu.”

Mewn neges ar Instagram, dywedodd y gyflwynwraig Davina McCall: “Maen nhw wedi bod drwy ddigon. Nawr, dylwn ni roi ychydig o le iddyn nhw gael gwella.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.