Newyddion S4C

Cabinet newydd Vaughan Gething: Newidiadau i amaeth, addysg a thrafnidiaeth

22/03/2024

Cabinet newydd Vaughan Gething: Newidiadau i amaeth, addysg a thrafnidiaeth

Y llun sy bellach wedi dod yn draddodiad pan fod Prif Weinidog yn cyhoeddi cabinet newydd.

Toc wedi pump pnawn 'ma fe gethon ni wybod pwy fyddai aelodau llywodraeth Vaughan Gething wrth iddyn nhw ymddangos tu allan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.

"This stellar ministerial team will answer the call of a generation in waiting to create a stronger, fairer, greener Wales.

"We will strengthen our economy by providing opportunities whilst being steadfast in our commitment to Net Zero."

Mae'r newidiadau yn rhai sylweddol.

Ei wrthwynebydd am y swydd, Jeremy Miles nawr yn bennaeth adran newydd yn cwmpasu'r economi, ynni a'r Gymraeg.

Y gweinidog iechyd Eluned Morgan yn parhau yn ei swydd yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Wedyn wyneb newydd yn y cabinet, y cyn-ddirprwy weinidog Lynne Neagle fydd yn rhedeg addysg yng Nghymru o heddi 'mlaen.

Falle'r syndod fwya yw gweld Eluned Morgan yn parhau mewn un o'r swyddi fwya heriol gyda nifer wedi proffwydo y bydde hi wedi symud.

"Mae'n rôl eithaf anodd i gael eich dwylo o gwmpas hi.

"Mae'n cymryd amser ac yn gyfnod pwysig yn yr NHS.

"Mae lot o heriau.

"Gobeithio bydd gen i gyfle i gario 'mlaen gyda'r newidiadau."

Dychwelyd i'r cabinet mae Ken Skates mewn swydd newydd fel yr ysgrifennydd dros y gogledd a thrafnidiaeth.

Cyn-ddirprwy weinidog arall Huw Irranca Davies sydd â'r cyfrifoldeb am bolisi Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Gyda'r anghydweld ymhlith ffermwyr am gynlluniau'r llywodraeth ar nifer o bynciau mae un undeb yn awyddus iawn i'w gwrdda i drafod.

"Dylen ni gael cyfweliad i drafod y cynllun ffermio trafod y TB ac NVZ a gweithio mas ffordd ymlaen er mwyn lles pawb."

Mae'r rhai sy'n astudio hynt a helynt gweinidogion yn dweud bod y Prif Weinidog newydd wedi llwyddo i blesio pawb.

"Mae fe hefyd wedi taro balans rhwng ei gefnogwyr ef a chefnogwyr Jeremy Miles.

"Roedd hynna yn bwysig wrth sicrhau undod yn y blaid bod e nawr yn gallu llywodraethu ar ôl ymgyrch agos."

Mae Vaughan Gething wedi ffurfio cabinet sy'n cwmpasu'i gefnogwyr a'i wrthwynebwyr.

Yn wên i gyd heddi, mae'r gwaith caled yn dechrau nawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.