Newyddion S4C

‘Llais enfawr newydd i blant’: Cytundeb chwe ffigwr i awdur o Gymru

22/03/2024
Huw Aaron a Luned Aaron

Mae awdur a darlunydd o Gymru wedi ennill cytundeb chwe ffigwr gan y cyhoeddwr llyfrau Puffin.

Bydd Huw Aaron, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn ysgrifennu neu ddarlunio saith o lyfrau plant Saesneg dros y ddwy flynedd nesaf.

Roedd wyth cyhoeddwr llyfrau wedi cystadlu mewn ocsiwn am yr hawliau i’w waith ond Puffin ddaeth i'r brig.

Dywedodd Puffin, sy'n rhan o Penguin Books, eu bod yn ei ragweld fel “llais enfawr newydd i blant o bob oed”. 

Mae Mr Aaron wedi ysgrifennu neu ddarlunio dros 60 o lyfrau Cymraeg, gan gynnwys A am Anghenfil, Seren a Sparc, a Dwi eisiau bod yn Ddeinosor.

Fe enillodd y gwobrau Tir na n-Og a Llyfr Plant y Flwyddyn Cymru'r llynedd.

'Creu llyfrau mae plant yn eu caru'

Dyma'r tro cyntaf iddo gyhoeddi llyfrau Saesneg, a bydd ei lyfr cyntaf yn yr iaith, Sleep Tight, Disgusting Blog, yn cael ei gyhoeddi mewn clawr meddal ym mis Ebrill 2025, gyda thri llyfr lluniau arall i ddilyn.

Yna, ym mis Awst 2025, bydd ei lyfr Unfairies cyntaf yn cael ei gyhoeddi mewn clawr meddal, gyda dau deitl arall yn dilyn yn 2026.

Dywedodd Mr Aaron: “Dwi wir methu credu fy mod yn mynd i gael fy nghyhoeddi gan Puffin.

“Fy unig nod fel awdur yw creu llyfrau mae plant yn eu caru. Yn union fel yr oeddwn i’n caru llyfrau fel PeepoFungus the BogeymanThe BFG ac A Wizard of Earthsea: llyfrau ddaeth â llawenydd i mi, ac felly yn hudolus - fel yr oedd yr aderyn bach ar gornel eu cloriau.

“Mae Puffin wedi chwarae rôl enfawr yn ffurfio fy nychymyg a’r pleser o gael darllen gyda fy rhieni, fy chwaer, a nawr fy merched fy hun.

“Mae’n rhaid i mi ychwanegu hefyd pa mor ddyledus ydw i bawb yn y byd cyhoeddi Cymraeg sydd wedi cefnogi fy ngyrfa hyd yn hyn ac wedi rhoi adenydd i fy nychymyg. Diolch o galon i chi gyd.”

Llun: Huw Aaron a Luned Aaron

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.