Newyddion S4C

Rhybudd wrth i filoedd o feddygon iau yng Nghymru fwriadu streicio eto

22/03/2024
Streic meddygon iau Cymru

Mae pennaeth GIG Cymru wedi rhybuddio y bydd effaith sylweddol ar wasanaethau wrth i filoedd o feddygon iau Cymru fwriadu streicio am 96 awr.

Dywedodd Judith Paget y bydd angen aildrefnu apwyntiadau o ganlyniad i’r streicio yr wythnos nesaf a fydd yn digwydd am y trydydd tro eleni.

Bydd ychydig yn llai na 4,000 o feddygon yn gweithredu’n ddiwydiannol, gydag apwyntiadau mewn ysbytai a meddygon teulu ar fin cael eu gohirio ar draws y wlad.

Bydd y streic yn dechrau am 7am ddydd Llun ac yn para tan 7am ddydd Gwener.

Rhybuddiodd Judith Paget y dylai pobl, yn enwedig y rhai sydd â phresgripsiynau, gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y streiciau a fydd yn digwydd ychydig cyn gwyliau banc y Pasg.

“Os ydych chi'n derbyn presgripsiynau rheolaidd, cynlluniwch ymlaen llaw cyn gŵyl banc y Pas,” meddai.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich presgripsiynau rheolaidd o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw.”

‘Ddim ar chwarae bach’

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn galw am well cyflogau gan ddweud eu bod nhw wedi gostwng traean mewn termau real dros y 15 mlynedd diwethaf.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu mai’r 5% sy'n cael ei gynnig yw’r cyfan y maen nhw’n gallu ei fforddio.

Mae Cymdeithas BMA Cymru wedi ysgrifennu at Vaughan Gething, Prif Weinidog newydd Cymru yn ei annog i ddod â'r anghydfod cyflog i ben.

Dywedodd cadeirydd dros dro BMA Cymru Wales, Dr Phil White: “Mae gweithredu diwydiannol yn benderfyniad nad yw’n cael ei gymryd ar chwarae bach.

“Mae Cymru, man geni’r GIG, yn gartref i wasanaeth iechyd sy’n cael ei danariannu ac sydd heb ddigon o adnoddau.”

Cynhaliodd y BMA streiciau yng Nghymru ym mis Ionawr a mis Chwefror.

Fis nesaf, mae disgwyl i feddygon ymgynghorol Cymru ac uwch feddygon eraill streicio am 48 awr, gan ddechrau ar Ebrill 16.

Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a'r BMA yn dweud eu bod yn cydweithio i sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei flaenoriaethu tra bod meddygon iau yn gweithredu'n ddiwydiannol.

Bydd gofal brys yn cael ei ddarparu i'r rhai mewn angen.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.