Newyddion S4C

Cabinet newydd Vaughan Gething: Newidiadau i amaeth, addysg a thrafnidiaeth

21/03/2024

Cabinet newydd Vaughan Gething: Newidiadau i amaeth, addysg a thrafnidiaeth

Mae’r Prif Weinidog newydd Vaughan Gething wedi cyhoeddi pwy fydd yn ei gabinet gyda newidiadau mewn swyddi allweddol.

Mae yna un newid arwynebol sef bod aelodau'r cabinet yn cael eu disgrifio fel ysgrifenyddion (secretaries) unwaith eto yn un yr un modd ag arweinwyr gwleidyddol adrannau Llywodraeth y DU ar ôl bod yn weinidogion (ministers) dan Mark Drakeford.

Bydd gwrthwynebydd Vaughan Gething yn ras arweinyddol y Blaid Lafur, Jeremy Miles, yn cael hen swydd Vaughan Gething sef Ysgrifennydd yr Economi.

Bydd Jeremy Miles hefyd yn cadw briff yr iaith Gymraeg, ac yn gyfrifol am ynni.

Mae wyneb newydd, Huw Irranca Davies, yn Ysgrifennydd dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Mae Eluned Morgan yn aros yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae dyrchafiad sylweddol i Lynne Neagle o swydd dirprwy weinidog iechyd meddwl i Ysgrifennydd Addysg.

Mae Ken Skates yn dychwelyd i'w hen swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth wedi cyfnod allan o'r cabinet ac yn ychwanegu Gogledd Cymru.

Roedd Ken Skates wedi beirniadu cabinet blaenorol Llywodraeth Cymru am eu penderfyniad i rewi ac adolygu prosiectau trafnidiaeth y wlad.

Dywedodd ar y pryd bod y penderfyniad wedi “anwybyddu” barn y cymunedau oedd yn cael eu heffeithio.

Wynebau amlwg sydd ar goll yw Julie Morgan. gweddw y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan, a oedd yn ddirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol, a Lee Waters, y cyn ddirprwy weinidog trafnidiaeth.

Wrth gyhoeddi ei gabinet newydd dywedodd Vaughan Gething: "Rwy’n eithriadol o falch o allu dwyn ynghyd lywodraeth o bob cwr o Gymru. 

"Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd dros ein cenedl gyfan, a bydd gwleidyddiaeth flaengar wrth galon y Llywodraeth. Yn benodol, rwy’n falch o benodi Gweinidog dros Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn.

"Bydd y tîm Gweinidogol hwn yn ateb galwad y genhedlaeth nesaf i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach. Byddwn yn gweithredu i gryfhau’r economi drwy roi cyfleoedd i bawb, a glynu’n gadarn wrth ein hymrwymiad i bontio’n deg at sero net. 

"I adlewyrchu ein nod o sicrhau ffyniant gwyrdd, rydym wedi creu swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.

"Rwy’n credu mewn Cymru sy’n deall y gallwn ddathlu’n gwahaniaethau, ac ymfalchïo yn yr holl bethau sy’n ein tynnu ynghyd ac yn creu ein hunaniaeth. Er y bydd sawl her ar y ffordd o’n blaen, mae gennym gyfleoedd sy’n fwy na’r heriau hynny. 

"Rwy’n uchelgeisiol am y gwaith y bydd y tîm hwn yn ei gyflawni i wneud Cymru’n lle gwell eto." 

Ymateb

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid Andrew RT Davies bod y cabinet yn cynnig "mwy o'r un fath i Gymru".

"Cynigiodd y Ceidwadwyr Cymreig y pleidleisiau i Vaughan Gething gael gwared ar 20mya, 36 yn fwy o wleidyddion a Chynlluniau Ffermio Cynaliadwy," meddai.

"Mae'r penodiadau hyn yn dangos ei fod yn rhoi ideoleg eithafol Llafur uwchben blaenoriaethau'r bobl."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth hefyd fod "cabinet Gething yn cynnig yr un hen stori i Gymru ac ni fydd yn cyflawni’r newid sydd ei angen i’n cymunedau wrth ystyried amseroedd aros hir, economi gwan, a lefelau ystyfnig o dlodi plant.

"Bydd Plaid Cymru yn parhau i ddal Llafur i gyfrif am eu record a mynnu tegwch i Gymru."

Wrth ymateb i gyhoeddi cabinet newydd Llywodraeth Cymru dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae sawl peth i'w groesawu am y Cabinet newydd, bydd cysondeb o ran briff y Gymraeg a'i gyfuno â briff yr economi yn beth da. 

"Rydyn ni'n disgwyl i'r Gymraeg fod yn ystyriaeth greiddiol i ddatblygiadau economaidd. 

"Byddwn ni hefyd yn disgwyl i Julie James adeiladu ar y mesurau radical mae hi wedi eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r argyfwng tai a mynd at wraidd y broblem wrth iddi gymryd rôl benodol dros Dai a Chynllunio. 

"Mae creu briff sy'n cynnwys materion gwledig yn addawol hefyd a byddwn ni'n disgwyl i Huw Irranca gydweithio gyda Julie James a Jeremy Miles i sicrhau cymunedau Cymraeg hyfyw.

"Mae cyfle gan Lynne Neagle i gryfhau'r Gymraeg. Fel Ysgrifennydd Addysg gall hi gryfhau ac ehangu ar Fil Addysg Gymraeg y Llywodraeth trwy osod nod bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

"Ac mae'n amlwg bod darlledu yn faes pwysig i'r Llywodraeth, sydd wedi cyhoeddi'r bwriad i greu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu, gan fod Ysgrifennydd Cabinet â chyfrifoldeb penodol dros ddarlledu - mae'n arwydd y gallwn ni ddisgwyl symudiad sydyn felly.

"Rydyn ni eisoes wedi galw ar Vaughan Gething i ddilyn esiampl ei ragflaenydd a dysgu'r a defnyddio'r Gymraeg rydyn ni'n gwneud yr un alwad ar bob aelod o'r Cabinet, bydd gweld Ysgrifenyddion Cabinet yn defnyddio'r Gymraeg yn profi ymrwymiad y Llywodraeth i'r iaith."

Y cabinet

Y Prif Weinidog: Vaughan Gething

Y Darpar Gwnsler Cyffredinol: Mick Antoniw

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Jeremy Miles

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Eluned Morgan

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Rebecca Evans

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Julie James

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lynne Neagle

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ken Skates

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Huw Irranca Davies

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Lesley Griffiths

Y Prif Chwip a’r Trefnydd: Jane Hutt

Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hannah Blythyn

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar: Jayne Bryant

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Dawn Bowden

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.