Newyddion S4C

'Dwi ddim yn ymddiheuro am fy oed' meddai'r aelod ieuengaf erioed o Dŷ'r Arglwyddi

21/03/2024
carmen ria smith.png

Mae'r person ieuengaf erioed i fynd i Dŷ'r Arglwyddi wedi dweud na fydd yn "ymddiheuro" em ei hoed wrth ymuno gyda'r aelodau eraill yno am y tro cyntaf ddydd Iau.

Mae Carmen Ria Smith o Blaid Cymru'n Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus ac yn gyn bennaeth staff ar gyfer grŵp y blaid yn Senedd Cymru.

Yn 28 oed, hi fydd yr ‘arglwyddes am oes’ (life peer) ieuengaf erioed.

Cyn ei henwebiad, Charlotte Owen, cyn ymgynghorydd i Boris Johnson, oedd yr ieuengaf i gael ei dewis pan oedd hi'n 30 oed.

Cafodd Ms Smith ei henwebu gan Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Cafodd ei chyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi fel y Farwnes Smith o Lanfaes.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: "Dwi wedi cael fy magu yn Llanfaes a wedi mynd i Ysgol David Hughes a wedyn Coleg Menai yn Bangor ond dwi wedi dewis Llanfaes oherwydd mae’n bwysig i mi i roi sylw i gymuned efallai sydd yn ddifreintiedig ond hefyd dewis enw yn Gymraeg hefyd. 

"Heddiw hyd yn oed, dwi wedi siarad efo llawer o bobl sydd wedi gofyn i fi sut i ddeud Llanfaes a dwi wedyn wedi cael sgwrs am Gymraeg a beth mae ‘Llan’ a ‘Faes’ yn feddwl, so mae hefyd yn dipyn bach o conversation starter i bobl wybod mwy am yr iaith."

Yn 28 oed, Y Farwnes Smith o Lanfaes ydi'r ieuengaf erioed i fynd i Dŷ'r Arglwyddi, ac mae'n awyddus i gynrychioli pobl ifanc yn y byd gwleidyddol.

"O ran fy oed, dwi ddim am ymddiheuro am fod isio cynrychioli pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth. Mae hwn yn rili pwysig i fi, dwi’n credu ei fod o’n bwysig er mwyn cael polisïau gwell a democratiaeth cryfach i gael pobl sydd ddim yn edrych fel yr usuals mewn gwleidyddiaeth," meddai.

"Dwi ddim yn gweld o fel problem, dwi’n gweld o fel dwi’n gallu gwneud cyfraniad hefyd am y bobl sydd fel arfer ddim yn cael eu cynrychioli yng ngwleidyddiaeth."

Tyngu llw

Fe gafodd Ms Smith ei chyflwyno i’r Arglwyddi gan gyn-arweinydd Plaid Cymru Dafydd Wigley a chyn-arweinydd y Blaid Werdd Natalie Bennett. Fe wnaeth hi gymryd y llw yn Gymraeg.

Wrth siarad am bwysigrwydd cymryd llw yn y Gymraeg, dywedodd: "Dwi’n meddwl mae’n bwysig iawn i ni neud o yn Gymraeg ac i ddefnyddio’r iaith yn San Steffan, fel arfer Saesneg sy’n cael ei siarad yn y Siambr ond yr un amser ‘dan ni’n gallu defnyddio’r Gymraeg, wrth gwrs dwi isio, dwi isio defnyddio’r iaith bob dydd rili so mae’n bwysig iawn i fi a phwysig iawn i bobl ar draws Cymru.

"Dwi’n edrych ymlaen i ddechrau’r gwaith a mae’n fraint i gael siarad ar ran pobl Cymru ar faterion sy’n bwysig i ni. Edrych ymlaen i sefyll fyny ar gyfer pobl Cymru a phobl ifanc."

Mae gan Y Farwnes Smith o Lanfaes nifer o amcanion y hoffai eu cyflawni yn ei rôl newydd.

"Dim ond un person ydw i ond y peth cyntaf a’r pwysicaf i fi ydi sefyll i fyny am bobl Cymru am faterion Cymru ond hefyd dwi isio siarad am a sefyll i fyny am newid hinsawdd, tlodi, diffyg gwaith, dyledion a ‘dan ni’n byw mewn argyfwng costau byw a dwi isio sefyll i fyny i siarad am y materion hynny i neud gwahaniaeth i pobl rwan," meddai.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:

“Rwyf wrth fy modd y bydd Carmen Smith yn ymuno â thîm bychan ond gweithgar Plaid Cymru yn San Steffan. Gwn y bydd yn sefyll yn ddygn dros Gymru, dros bobl ifanc, a thros fenywod.

“Mae arnom angen pobl gydag amrywiaeth eang o brofiadau fel bod ein gwleidyddiaeth yn cynrychioli cymdeithas yn well. Alla’i ddim aros i weld Carmen yn rhoi sgytwad i’r lle ac yn dod â chwa o awyr iach i ail siambr San Steffan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.