Newyddion S4C

Arestio dyn 21 oed ar amheuaeth o wneud bygythiadau yn erbyn tair ysgol gynradd

20/03/2024
Heddlu

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i adroddiadau o gyfathrebu maleisus tuag at tair ysgol yn ardal Abertawe.

Yr ysgolion ydy Ysgol Gynradd Cwm Glas, Ysgol Gynradd Gwyrosydd ac Ysgol Gymunedol Townhill.

Mae dyn 21 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o wneud bygythiadau medd y llu.

Dywedodd y Prif Arolygydd Lindsey Sweeney: “Rydym yn cymryd y cyfathrebu o ddifrif ac o ganlyniad i’n hymchwiliadau mae dyn 21 oed yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd, ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o wneud bygythiadau.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw beth wedi ei ddarganfod yn yr ysgolion oedd "yn peri pryder" a chafodd neb ei niweidio.

“Mae pob ysgol ar agor fel arfer a bydd ein Swyddogion Cymorth Cymunedol a swyddogion Ysgolion lleol yn parhau i roi sicrwydd a chefnogaeth trwy gydol y dydd.

“Diolchir i’r rhai yr effeithir arnynt am eu cydweithrediad a byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau i’n partneriaid ym myd addysg wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.