Newyddion S4C

Chwilio am Mr Nice: Cyfres newydd i adrodd hanes y smyglwr cyffuriau Howard Marks

19/03/2024
Howard Marks (Wotchit)

Bydd cyfres deledu newydd yn adrodd hanes yr ymgyrch i geisio dal y smyglwr cyffuriau, Howard Marks.

Mae’r BBC wedi comisiynu cyfres dwy ran o’r enw Hunting Mr Nice, fydd yn olrhain hanes y Cymro o Fynydd Cynffig, ger Ben-y-bont, oedd yn smyglwyr cannabis adnabyddus.

Bu farw'r Cymro yn 2016.

Bydd y gyfres yn cyfweld â rhai oedd wedi cynorthwyo Marks yn ystod ei yrfa droseddol, yn ogystal â swyddogion heddlu ag Asiantaeth Orfodi Cyffuriau'r Unol Daleithiau (DEA).

Wedi ei ffilmio yn y DU, America, Sbaen a'r Philipinau, bydd y gyfres yn cynnwys cyfweliadiau â newyddiadurwyr, cyfreithwyr a rhai o ffrindiau'r gŵr oedd yn cael ei adnabod fel ‘Mr Nice’.

Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu Cynnwys BBC Cymru: “Roedd Howard Marks yn gymeriad hynod ddiddorol - bachgen o bentref Mynydd Cynffig yng nghymoedd Cymru a wnaeth sicrhau ei le ym Mhrifysgol Rhydychen, ond a gefnodd ar academia er mwyn byw bywyd smyglwr rhyngwladol, gan ddod yn un o werthwyr cyffuriau enwocaf Prydain yn y broses.

“Er bod ganddo gysylltiadau â'r Yakuza, yr IRA, y Mafia a MI6, roedd Marks yn adnabyddus am ei swyn a'i garisma, oedd â mwy o ddiddordeb mewn newid y deddfau canabis nag ymroi i droseddoldeb."

Ychwanegodd Nick Leader, cyd-gynhyrchydd/cyfarwyddwr y gyfres: “Gyda chanabis bellach yn gyfreithlon yn y rhan fwyaf o’r Unol Daleithiau, dyma’r amser perffaith i allu archwilio’r pwnc hwn gydag ychydig o edrych yn ôl.”

Llun: Wotchit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.